Mae MALD yn datblygu canllawiau fel rhan o raglen Cyfuno: Trechu Tlodi trwy Ddiwylliant, sy'n ymwneud â
dileu rhwystrau trafnidiaeth i gyfranogiad ddiwylliannol. Dengys y dystiolaeth bod mynediad i drafnidiaeth fforddiadwy yn parhau yn rhwystr mwy sylweddol i bobl sy'n byw mewn cymunedau difreintiedig nag i'r boblogaeth gyfan o ran cyrraedd safleoedd diwylliannol.
Bydd y canllawiau yn ceisio helpu sefydliadau diwylliannol trwy gynnig enghreifftiau o arfer gorau, a chyfeirio at adnoddau a chymorth ychwanegol. Bydd pwyslais ar fesurau ymarferol, realistig a rhad i sicrhau bod mwy o bobl yn cael
mynediad i leoliadau ac yn cymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol os ydynt yn dioddef o rwystrau economaidd, cymdeithasol, corfforol ac eraill.
Rydym yn chwilio am enghreifftiau o sefydliadau sydd wedi datblygu atebion arloesol, ac sy'n barod i rannu'r rhain yn ehangach, yn enwedig os ydynt:
- Wedi gweithio gyda darparwyr trafnidiaeth lleol, gan gynnwys gwasanaethau bysiau cymunedol, i sicrhau ei bod yn haws i gael cludiant i leoliadau
- Darparu trafnidiaeth fel rhan o brosiectau neu raglenni, yn enwedig os ydych wedi gweithio gyda chynulleidfaoedd targed ble y mae trafnidiaeth yn rhwystr
- Wedi gweithio gyda ysgolion ac AALl, yn enwedig pan fo ysgolion yn defnyddio eu Grant Amddifadedd Disgyblion i dalu costau trafnidiaeth
- Sicrhau bod gwybodaeth am fynediad i drafnidiaeth yn cael ei ddarparu'n effeithiol i gynulleidfaoedd targed
Os oes gennych stori dda hoffem glywed gennych! Anfonwch grynodeb byr o'ch astudiaeth achos (uchafswm o 250 gair) at [log in to unmask] erbyn dydd
Gwener 9fed Mehefin. Byddem hefyd yn gwerthfawrogi lluniau clir i fynd gyda'r astudiaethau achos, os oes gennych ganiatâd addas i wneud hynny.
Tom Cosson MA
Uwch Gynghorydd Diwylliant a Thlodi / Senior Culture and Poverty Adviser
Is-adran Amgueddfeydd Archifau a Llyfrgelloedd / Museums Archives and Libraries Division
Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth / Department for Economy, Science and Transport
#Cyfuno-Fusion
Hapus i gyfathrebu’n Saesneg neu yn y Gymraeg/Happy to communicate in English or Welsh