This is a bilingual message - Please see below for English version / Neges ddwyieithog yw hon - Gweler isod ar gyfer y fersiwn Saesneg
Labelu a Marcio
Amgueddfa Forwrol Llŷn
Gorffennaf 20 2017
Llywodraeth Cymru sy'n darparu'r cwrs hwn, sy'n rhad ac am ddim, ac mae’n cael ei gynnig i staff a gwirfoddolwyr sy'n gweithio yn amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd Cymru. Mae’n addas ar gyfer y sawl y gallai eu rôl fod yn cynnwys labelu a marcio
gwrthrychau mewn casgliadau amgueddfeydd. Ymdrinnir â chasgliadau llyfrgelloedd ac archifau hefyd gan ganolbwyntio’n bennaf ar wrthrychau 3D.
Bydd y cwrs ymarferol hwn yn ymdrin â theori ac egwyddorion labelu a marcio, a nodir yng nghanllaw Collections Link (canllaw SPECTRUM yn flaenorol) i labelu a marcio gwrthrychau amgueddfeydd, ac yna cyflwynir yr offer. Erbyn y
prynhawn, bydd y cyfranogwyr yn cael cyfle i ymarfer ystod o dechnegau labelu a marcio.
Nod
Erbyn diwedd y cwrs, bydd y cyfranogwyr wedi dysgu am egwyddorion, offer a diogelwch gwaith labelu a marcio’n unol â safonau amgueddfeydd. Byddant wedi rhoi cynnig ar ystod eang o dechnegau er mwyn marcio gwrthrychau go iawn.
Y canlyniadau dysgu a ddisgwylir
O ganlyniad i fynychu’r cwrs, bydd y cyfranogwyr:
- yn gallu adnabod a deall y cyfarwyddiadau a nodir yn llyfryn Collections Link ‘Labelling and Marking Museum Objects’ (a elwid yn flaenorol yn ganllaw SPECTRUM)
- yn gyfarwydd â’r deunyddiau a’r offer arbenigol ar gyfer labelu a marcio, ac yn gwerthfawrogi’r angen i wneud defnydd priodol ohonynt mewn cyd-destun addas
- yn gallu adnabod y materion craidd o ran diogelwch sy’n gysylltiedig â deunyddiau, a nodir yn y llyfryn, ac yn gallu cydymffurfio â’r materion hynny
- yn gallu defnyddio pob un o’r technegau a ddisgrifir
- yn gallu meithrin gwerthfawrogiad o gryfderau a gwendidau pob un o’r dulliau, ac yn dechrau ymgyfarwyddo â sut i’w defnyddio.
Dulliau hyfforddi
Darlithoedd â sleidiau, taflenni, sesiynau arddangos a sesiynau ymarferol, a fydd yn cynnwys ysgrifennu mewn grwpiau bach am wrthrychau amgueddfeydd. Efallai y bydd angen i unrhyw rai sydd â nam ar eu golwg neu sydd â sgiliau echddygol manwl cyfyngedig
drafod addasrwydd y cwrs ar eu cyfer, er mwyn ei addasu gyda CyMAL a’r hyfforddwr.
Paratoi
Dylai pob cyfranogwr ddod â deunyddiau yr hoffent eu labelu neu’u marcio, neu dylent hysbysu CyMAL ynghylch y math o ddeunydd er mwyn sicrhau yr ymdrinnir â phob techneg berthnasol.
Hyfforddwr: Megan De Silva
Megan De Silva yw Cadwraethwraig Gwrthrychau Amgueddfeydd Sir Fynwy a Chadwraethwraig Prosiect Hanes Cymdeithasol Amgueddfa Cymru. Mae ganddi BCs yng Nghadwraeth Gwrthrychau dros Amgueddfeydd ac Archeoleg a gradd meistr yng Nghadwraeth a Gofal Proffesiynol,
y ddau o Brifysgol Caerdydd. Mae Megan ar hyn o bryd yn cynrychioli Cadwraethwyr Cymru ar Fwrdd Ymddiriedolwyr ICONs ac yn aelod o bwyllgor Cymru Cronfa Dreftadaeth y Loteri.
Datganiad o ddiddordeb
Ceisiadau yn cael eu cyfyngu i 2 y sefydliad, fodd bynnag, rydym yn hapus i roi unrhyw geisiadau eraill ar restr aros rhag ofn na fydd y cwrs yn llawn. Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais, cewch neges a gynhyrchir yn awtomatig i gadarnhau bod eich
cais wedi ei dderbyn. Nodwch nad yw eich lle yn warantedig hyd nes y byddwch yn derbyn gwahoddiad i'r cwrs gan MALD.
Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Os bydd eich amgylchiadau’n newid ac na fyddwch yn gallu mynd ar y cwrs wedi'r cyfan, cysylltwch â Meleri Lloyd ar unwaith drwy e-bostio [log in to unmask]
neu ffoniwch 0300 062 2458 er mwyn i rywun arall ar y rhestr aros allu mynd yn eich lle.
Ni fyddwn bellach yn darparu cinio ar gyfer digwyddiadau hyfforddi er mwyn i ni allu cynnal amrywiaeth mor eang â phosibl o gyfleoedd hyfforddi. Serch hynny, byddwn yn parhau i gynnig te a choffi wrth i chi gyrraedd ac yn
ystod egwyliau. Byddwn hefyd yn darparu gwybodaeth am y darparwyr bwyd lleol sydd gerllaw lleoliad yr hyfforddiant.
Bydd pob gohebiaeth sy'n ymwneud â'r cwrs hwn yn cael ei hanfon atoch yn electronig ar ôl ichi gofrestru; felly, gofynnwn am gyfeiriad e-bost unigol ar gyfer pob cynrychiolydd.
Labelling and Marking
Llŷn Maritime Museum
20th July 2017
This free course is provided by the Welsh Government and is open to staff and volunteers working in museums, archives and libraries in Wales. It is suitable for those whose role may include labelling and marking objects in museum collections.
Library and archive collections will be covered with the main focus on 3D objects.
This hands-on course will cover the theory and principles of labelling and marking set out in the collections link guide (formally the spectrum guide) to labelling and marking museum objects followed by an introduction to the equipment.
By the afternoon delegates will be undertaking hands on practice of a range of labelling and marking techniques.
Aim
By the end of the course participants will have learnt about principles, equipment and safety of labelling and marking to museum standards. They will have tried a broad range of techniques to mark real objects.
Expected learning outcomes
As a result of attending the course delegates will be able to:
- Recognise and understand the instructions set out in the Collections link booklet ‘ Labelling and Marking Museum Objects’ (formally known as the spectrum guide)
- Be familiar with the specialist materials and equipment for labelling and marking and appreciate their appropriate use in context
- Recognise and comply with the core safety issues associated with materials specified in the booklet
- Utilise each of the techniques described
- Develop an appreciation of the strengths and weaknesses of each method and begin to have a feel for how to use them
Training Methods
Lectures with slides, hands outs, demonstrations and practical sessions, which will include writing in small numbers on museum objects. Anyone with visual impairments or restriction in fine motor skills may need to discuss the suitability of the course
for adaption with CyMAL and the trainer.
Preparation
Could all delegates please bring materials that they would like to label or mark or notify CyMAL of the type of material in order to ensure that all relevant techniques are covered.
Trainer: Megan De Silva
Megan de Silva is the Objects Conservator for Monmouthshire Museums and Project Social History Conservator at National Museums Wales. She has a BSc in the Conservation of Objects for Museums & Archaeology and an Msc in Professional Conservation & Collections
Care, both from Cardiff University. Megan currently represents Welsh Conservator’s on ICONs Board of Trustees and is a member of the Heritage Lottery Fund’s Committee for Wales.
Expression of interest
Requests are limited to 2 per organisation however we are happy to waitlist any others in the event the course is not fully subscribed. Once you have submitted your request your will receive an automatically generated message to confirm that your request
has been received. Please note your place is not guaranteed until you receive an invitation to the course from MALD.
Spaces are limited. If your circumstances subsequently change and you can no longer attend notify Meleri Lloyd immediately on [log in to unmask]
or 0300 062 2458 so your place can be awarded to someone on the waitlist.
In order to maintain as wide a range of training opportunities as possible MALD will no longer provide lunch for training events. We will continue to provide tea and coffee on arrival and during breaks. We will also provide information
on available food providers located conveniently near the venue.
All correspondence relating to this course will be sent out electronically once you have registered; therefore you must supply an individual email address for each delegate.
Meleri Lloyd
Cynorthwy-ydd Casgliadau, Safonau a Hyfforddiant
Collections, Standards and Training Assistant
Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd
Museums, Archives and Libraries Division
Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Department for Economy, Science and Transport
Llywodraeth Cymru / Welsh Government
Rhodfa Padarn, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UR
0300 062 2458
Hapus i gyfathrebu’n Saesneg neu yn y Gymraeg / Happy to communicate in English or Welsh