|
Mae Gwobr 2017 i Amgueddfeydd sy’n Croesawu Teuluoedd wedi ei lansio ac mae’n rhoi cyfle i chi a’ch ymwelwyr ddweud pa amgueddfa, oriel, safle treftadaeth,
canolfan wyddoniaeth neu gartef hanesyddol sy’n rhoi’r croeso cynhesaf i deuluoedd. Y Wobr hon yw’r wobr fwyaf i amgueddfeydd yn y wlad – a’r unig un lle mae teuluoedd yn penderfynu pwy sy’n ennill.
Gall unrhyw un wneud enwebiadau – staff blaen tŷ, marchnata, y cyfarwyddwr, gwirfoddolwyr, ceidwaid, gweithwyr y caffi. Gallwch hyd yn oed wahodd eich ymwelwyr i’ch enwebu chi. Dim ots a ydych yn amgueddfa genedlaethol enfawr neu’n oriel fechan leol ddwy ystafell.
Gallwch fod yn sefydliad a redir gan wirfoddolwyr neu’n amgueddfa sy’n cyflogi tîm o geidwaid. Efallai eich bod yn adnabyddus am eich casgliad gwych o borslen Ffrengig o’r 19eg ganrif neu efallai eich bod yn cynnig yr offer rhyngweithiol technoleg uchel diweddaraf
(neu’r ddau!). Yr hyn sydd fwyaf pwysig yw eich bod yn mynd gam ymhellach i roi profiad gwych i deuluoedd.
Rhowch gymaint o fanylion ag y gallwch i ni am eich amgueddfa. Beth sydd mor arbennig am eich cynnig i deuluoedd? Beth wnewch chi sy’n eich gwneud yn wahanol i bawb arall? Dywedwch ddigonedd o bethau wrthym – rydym wrth ein boddau’n clywed am eich ymdrechion
a’ch llwyddiannau. Edrychwch ar Faniffesto Bach Kids in Museums. Sut mae eich amgueddfa’n cyfateb ag
8 pwynt y Maniffesto Bach ar sut i wneud amgueddfa’n fan sy’n croesawu teuluoedd? Defnyddiwch y Wobr fel cyfle i asesu eich croeso i deuluoedd, gan ddefnyddio Maniffesto Bach Kids in Museums fel canllaw. Gofynnwch i’ch ymwelwyr am sylwadau a chynnwys y rhain
yn eich enwebiad
Sut i anfon enwebiad:
Cliciwch yma a llenwch y ffurflen.
Eleni rydym wedi creu un ffurflen ar-lein i’w gwneud hi’n hawdd a chyflym i enwebu eich amgueddfa. Os na allwch gwblhau’r ffurflen ar-lein, gallwn dderbyn enwebiadau ar yr ebost neu yn y post.
Ebostiwch: [log in to unmask] gan nodi pam y dylai eich amgueddfa ennill. Os ydych yn anfon dogfennau mawr,
anfonwch nhw fel copi caled i’r cyfeiriad isod, nid fel atodiadau.
Post: Family Friendly Museum Award
Kids in Museums
CAN Mezzanine
7 – 14 Great Dover Street
London SE1 4YR
Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw hanner dydd ar Fehefin 2il 2017
Trydarwch i ddweud eich bod wedi rhoi enwebiad ar Twitter gan enwi @kidsinmuseums #FFMA17
Gallwch ganfod rhagor am y Wobr yma
Mae’r Wobr i Amgueddfeydd sy’n Croesawu Teuluoedd yn derbyn cefnogaeth hael iawn gan
Nimrod Capital ac
Edwardian Hotels London.
Hoffech chi dderbyn poster Quentin Blake am ddim i roi gwybod i’ch ymwelwyr am eich gobeithion o ran ennill y Wobr?
Mae ein posteri Gwobr i Amgueddfeydd sy’n Croesawu Teuluoedd, gyda darluniau gan Quentin Blake, yn rhad ac am ddim.
Cliciwch yma i gael eich copi am ddim
Hoffech chi gael ap am ddim i hybu cynnig eich amgueddfa i deuluoedd? Mae’r crewyr apiau Xponia yn cynnig ap cyffrous wedi’i bersonoleiddio’n rhad ac am ddim, y gall amgueddfeydd eu
defnyddio i hybu’r Wobr i Amgueddfeydd sy’n Croesawu Teuluoedd. Gall bob amgeuddfa gael eu ap eu hunain, y gallent ei ddefnyddio i ddangos eu digwyddiadau teuluol i’w hymwelwyr, i dynnu sylw at wrthrychau ac i roi gwybodaeth iddynt am y Wobr i Amgeuddfeydd
sy’n Croesawu Teuluoedd. Gall ymwelwyr hefyd enwebu’n uniongyrchol drwy’r ap!
Cysylltwch heddiw i ganfod mor syml yw hi i gychwyn y broses. Ebost:
[log in to unmask], gwefan:
www.xponia.com/museums/
Beth sy’n digwydd wedyn?
Mae grŵp o wirfoddolwyr yn mynd drwy’r cannoedd o enwebiadau ac yn dewis rhestr fer o’u plith. Byddwn yn cyhoeddi’r rhestr fer ar Fehefin 22 2017.
Dros yr haf, mae teuluoedd yn mynd i mewn i’r amgueddfeydd sydd ar y rhestr fer i’w monitro’n gyfrinachol. Maent yn gwneud hyn gan ddefnyddio Maniffesto Bach Kids in Museums fel canllaw i ganfod pa mor groesawgar ydynt i deuluoedd.
Mae’r
Amodau a Thelerau ar wefan Kids in Museums
|
|
|
The 2017 Family Friendly Museum Award is launched, giving you and your visitors the chance to say why your museum, gallery, heritage site, science centre
or historic home gives the warmest welcome to families. The Award is the biggest museum award in the country – and the only one where families decide the winner.
Nominations can be made by anyone – front of house, marketing, the director, volunteers, curators, café workers. You can even invite your visitors to nominate you. It doesn’t matter whether you’re a giant National museum or a tiny two-room local gallery. You
can be volunteer-run or boast a team of curators. You can be best known for your outstanding collection of French 19th Century porcelain or be alive with high-tech interactives (or both!). What matters most is that you go that extra mile to provide an excellent
family friendly experience.
Give us as much detail as possible about your museum. What is so special about your offer to families? What do you do that really stands out? Tell us lots – we love to hear about all your efforts and achievements. Take a look at the Kids
in Museums Mini Manifesto. How does your museum match up to the Mini Manifesto’s 8 points on how to make a museum family friendly? Use the Award as an opportunity for a family friendly audit, using the Kids in Museums Mini Manifesto as a guide.
Consult your visitors and include their feedback in your nomination.
How to send in a nomination:
Click here and complete the form.
This year we have created an online form to make it quick and easy to nominate your museum. If you are not able to complete the online form, we can accept nominations by email or post.
Email: [log in to unmask] and tell us why you think your museum should win. If you are sending large documents, please
send as hard copy to the address below, not as attachments.
Post: Family Friendly Museum Award
Kids in Museums
CAN Mezzanine
7 – 14 Great Dover Street
London SE1 4YR
Deadline for nominations is noon on 2 June 2017.
Tweet that you’ve put in a nomination on Twitter mentioning @kidsinmuseums #FFMA17
Find out more about the Award here.
The Family Friendly Museum Award is kindly supported by
Nimrod Capital and
Edwardian Hotels London.
Want a free Quentin Blake poster to let your visitors know about your Award ambitions? Our Quentin Blake illustrated Family Friendly Museum Award posters are free.
Click here to get your free copy
Want a free app to promote your museum’s family offer? App creators Xponia are offering an exciting free personalised app, which museums can use to promote the Family Friendly Museum
Award. Each museum can have their own app, which they can use to show visitors their family events, highlighted objects and give them information about the Family Friendly Museum Award. Visitors can also nominate directly through the app!
Get in touch today and find out how simple it is to get started. Email:
[log in to unmask], website:
www.xponia.com/museums/
What happens next?
A group of volunteers sifts through all the hundreds of nominations and whittles them down to a shortlist. The shortlist will be announced on 22 June 2017.
Over the summer, the shortlisted museums are road-tested anonymously by families, using the Kids in Museums Mini Manifesto as a guide to their family friendliness.
Terms and Conditions on Kids in Museums website
|
|
|
|
|
|
|