Pwynt diddorol ynglŷn â bod “pob’ yn unigol, Ann.
Dw i ddim yn siŵr am yr enghraifft hon. Mae “Mae pob merch yn ferch i rywun ac mae’r gân hon iddi hi - beth bynnag ei hoed” yn swnio’n chwithig i mi.
Rwy’n deall - “Rhaid i bob disgybl olchi ei ddwylo cyn cinio” ond beth am “Bydd pob Eisteddfodwr yn y wlad yn dod i Sir Fôn ym mis Awst ac mae’n bwysig ei groesawu”?
Ydi “pob” weithiau’n croesi’r ffin rhwng unigol a lluosog cyn diwedd y frawddeg?
O diar!

Siân


On 11 Apr 2017, at 22:50, Ann Corkett <[log in to unmask]> wrote:

Ond mae "pob merch" yn unigol, on'd ydy? Pam nad "iddi hi"?

Gyda llaw:
Elizabeth Ann, merch ei mam; magwyd hi ar fara jam"

Gan mai "Elizabeth Ann" yw f'enw llawn, a chan fod fy Mam wedi cael dylanwad enfawr arnaf, cymeraf y rhigwm yna i mi fy hun.

Ann


On 11/04/2017 20:59, Sian Roberts wrote:
[log in to unmask]" type="cite" class=""> Rhywbeth fel - “mae pob merch yn ferch i rywun ac mae’r gân hon iddyn nhw - beth bynnag eu hoed”?

Siân

On 11 Apr 2017, at 19:27, anna gruffydd <[log in to unmask]> wrote:

Mae jyst yn 'mynd', tydi! er na dwi (yn bersonol) ddim yn ferch fy mam ond yn ferch fy nhad, ma isio rhywbeth cyffredinol ac mae'r neges 'merch dy dad' yn wahanol i'r neges 'merch dy fam' - o, dwi di colli'r plot rwan.

Anna

Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!

2017-04-11 19:21 GMT+02:00 Bethan Mair <[log in to unmask]>:
Am fy mod i wedi cael fy ngalw’n ‘ferch fy mam’ gynifer o weithiau, sbo!
B x

Bethan Mair MA
Y Gwasanaeth Geiriau  
The Word Service

07779 102224
Skype: bethanmair54

Ms Bethan Mair Hughes
Y Berth
29 Coed Bach
Pontarddulais
Abertawe / Swansea
SA4 8RB

On 11 Ebrill 2017, at 17:22, Neil Shadrach <[log in to unmask]> wrote:

Pam "mamau"?

Ar 11 Ebrill 2017 am 17:14, anna gruffydd <[log in to unmask]> ysgrifennodd:
Diolch! I'r dim

Anna

Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!

2017-04-11 18:01 GMT+02:00 Bethan Mair <[log in to unmask]>:
“I ferched eu mamau, waeth beth fo’u hoedran” ??

Bethan Mair MA
Y Gwasanaeth Geiriau  
The Word Service

Skype: bethanmair54

Ms Bethan Mair Hughes
Y Berth
29 Coed Bach
Pontarddulais
Abertawe / Swansea
SA4 8RB

On 11 Ebrill 2017, at 16:55, anna gruffydd <[log in to unmask]> wrote:

Ca^n "dedicated to daughters of all ages" - wel dyna i ni niwsans - does dim modd ei gyfleu! Mae pob dynes, wrth gwrs, yn ferch i rywun, ond does dim modd cyfleu mai 'daughters' sy dan sylw yma, nid 'women'. Nid gofyn am help ydw i, jyst deud.

Anna










AVG logo

This email has been checked for viruses by AVG antivirus software.
www.avg.com