Dwi'n meddwl bod hwnna'n awgrym ardderchog, ac mae o'n dilyn yr un patrwm â'r awgrymiadau a gafwyd gan y diweddar Athro Gwyn Thomas  e.e. gwynfyd o elyrch, esgobaeth o bengwyniaid, cawodydd o ddrudwy, cyfrinfa o lwynogod, cymanfa o gathod - ac wrth gwrs, senedd o asynnod!

Ieuan

Ar 13 Mawrth 2017 am 11:47, Alwyn Jones <[log in to unmask]> ysgrifennodd:
Difyr! Rhyw ffansi ydi llawer o'r enwau torfol hyn yn Saesneg ac mae rhai ohonynt yn gwbl anhygoel.

Mae un rhestr ohonynt yn cynnwys y geiriau (ascension / bevy / flight) ar ôl exaltation mewn cromfachau hefyd. 

Mae yna alaw o'r enw "Codiad yr Ehedydd" - Codiad (yr) Ehedyddion??

Mae GYA yn cynnwys y gair  'gorfoledd' am exaltation - dyma ddisgrifad perffaith o gân yr ehedydd.
Gorfoledd o Ehedyddion??

Gobeithio y bydd o gymorth - neu'n ddechrau trafodaeth ddifyr!

Hwyl
Alwyn


2017-03-11 15:06 GMT+00:00 Melanie Davies <melanie.translation@btinternet.com>:

 

 

Melanie Davies
Cyfieithydd/Translator
01239 621329 / 07779 207357
Oriau gwaith/Hours of work: 9am-3pm

 

From: melanie.translation@btinternet.com
Sent: 11 March 2017 15:05
To: [log in to unmask]co.uk
Subject: exaltation/uplifting of skylarks

 

Prynhawn da,

 

Mae gen i ddarn o waith sy’n rhoi rhyw ffeithiau am adar ac ar ddiwedd pob pwt am aderyn penodol mae rhyw ffaith diddorol. Mewn perthynas â’r ehedydd, mae’n dweud bod grwp ohonynt yn cael eu galw’n exaltation neu’n uplifting of skylarks. Beth fyddai grwp o ehedyddion yn cael ei alw yn y Gymraeg?

 

Diolch

Melanie

 

Melanie Davies
Cyfieithydd/Translator
01239 621329 / 07779 207357
Oriau gwaith/Hours of work: 9am-3pm

 

 




--
Cofion gorau

Alwyn