Print

Print


Dwi'n meddwl bod hwnna'n awgrym ardderchog, ac mae o'n dilyn yr un patrwm
â'r awgrymiadau a gafwyd gan y diweddar Athro Gwyn Thomas  e.e. gwynfyd o
elyrch, esgobaeth o bengwyniaid, cawodydd o ddrudwy, cyfrinfa o lwynogod,
cymanfa o gathod - ac wrth gwrs, senedd o asynnod!

Ieuan

Ar 13 Mawrth 2017 am 11:47, Alwyn Jones <[log in to unmask]>
ysgrifennodd:

> Difyr! Rhyw ffansi ydi llawer o'r enwau torfol hyn yn Saesneg ac mae rhai
> ohonynt yn gwbl anhygoel.
>
> Mae un rhestr ohonynt yn cynnwys y geiriau (*ascension / bevy / flight*) ar
> ôl exaltation mewn cromfachau hefyd.
>
> Mae yna alaw o'r enw "Codiad yr Ehedydd" - Codiad *(yr) *Ehedyddion??
>
> Mae GYA yn cynnwys y gair  'gorfoledd' am exaltation - dyma ddisgrifad
> perffaith o gân yr ehedydd.
> Gorfoledd o Ehedyddion??
>
> Gobeithio y bydd o gymorth - neu'n ddechrau trafodaeth ddifyr!
>
> Hwyl
> Alwyn
>
>
> 2017-03-11 15:06 GMT+00:00 Melanie Davies <melanie.translation@
> btinternet.com>:
>
>>
>>
>>
>>
>> Melanie Davies
>> Cyfieithydd/Translator
>> 01239 621329 / 07779 207357
>> Oriau gwaith/Hours of work: 9am-3pm
>>
>>
>>
>> *From: *[log in to unmask]
>> *Sent: *11 March 2017 15:05
>> *To: *[log in to unmask]
>> *Subject: *exaltation/uplifting of skylarks
>>
>>
>>
>> Prynhawn da,
>>
>>
>>
>> Mae gen i ddarn o waith sy’n rhoi rhyw ffeithiau am adar ac ar ddiwedd
>> pob pwt am aderyn penodol mae rhyw ffaith diddorol. Mewn perthynas â’r
>> ehedydd, mae’n dweud bod grwp ohonynt yn cael eu galw’n exaltation neu’n
>> uplifting of skylarks. Beth fyddai grwp o ehedyddion yn cael ei alw yn y
>> Gymraeg?
>>
>>
>>
>> Diolch
>>
>> Melanie
>>
>>
>>
>> Melanie Davies
>> Cyfieithydd/Translator
>> 01239 621329 / 07779 207357
>> Oriau gwaith/Hours of work: 9am-3pm
>>
>>
>>
>>
>>
>
>
>
> --
> Cofion gorau
>
> Alwyn
>
>