Alwyn dwi’n ofni bod y neges hwn wedi mynd i’r lle anghywir!

 

Beryl

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Alwyn Jones
Sent: 28 March 2017 12:07
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Landscapes

 

Annwyl Llinos

 

Ymddiheuriadau am beidio â gweld eich e-bost ddoe.

 

Dyma fy ffurflen ar gyfer cyfarfod y prynhawn yma.

 

Cofion gorau. 

 

2017-03-27 17:02 GMT+01:00 anna gruffydd <[log in to unmask]>:

Dyna oedd fy meddwl i hefyd - er eu bod yn dirluniau, tirwedday ydi eu hysbrydoliaeth. Mae'n broblem fu gen innau o dro i dro. Petaen nhw'n bobol, be ddweden ni - portreadau ynteu Poboil?

 

Anna


Ye who opt for cut'n'paste

Tread with care and not in haste!

 

2017-03-27 16:56 GMT+02:00 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>:

Mae neges Claire wedi fy mherswadio i i ailfeddwl!

Geraint

On 27/03/2017 15:24, Garry Nicholas wrote:

Diolch am yr holl atebion- mae'n amlwg ei fod yn destun trafod- yng ngoleuni'r dyfyniad o Darganfod Ceredigion rydw i'n credu mai tirweddaiu fydd fy newis (er mod i'n rhyw gytuno a barn Geraint hefyd!)

Garry

-----Original Message-----
From: Sian Roberts <[log in to unmask]>
To: WELSH-TERMAU-CYMRAEG <[log in to unmask]>
Sent: Mon, 27 Mar 2017 15:09
Subject: Re: Landscapes

Cytuno, Claire.

 

Siân

 

On 27 Mar 2017, at 15:06, Claire Richards <[log in to unmask]> wrote:

 

Dwi’n meddwl mai ‘tirweddau’ ddylai gael eu defnyddio yma, yn enwedig yng ngoleuni’r hyn sy’n cael ei ddweud ar wefan Darganfod Ceredigion:

 

“Mae tref Aberystwyth a thirweddau corsydd a ffriddoedd meithion Ceredigion yn 'gymeriadau yn eu hunain' yn ôl cynhyrchwyr cyfres arloesol Y Gwyll / Hinterland. Mae'r rhaglenni ditectif dwyieithog, sydd wedi ennill gwobrau BAFTA am eu technegau ffilmio, yn dangos Ceredigion mewn golau newydd, gyda pob lleoliad yn ychwanegu cefndir diddoroli'r stori yn ogystal a'r lleoliad...”

 

Aberystwyth and the landscapes of Ceredigion are 'characters in their own right' according to the producers of Hinterland / Y Gwyll . The acclaimed detective drama shows the landscape of Ceredigion in a new light, each location adding an intrigue of its own to the storylines...”

 

Hynny yw, ystyrir y tirweddau, fel pethau ffisegol, yn gymeriadau. Maen nhw’n hawlio sylw ar y sgrin yn yr un modd â’r actorion sy’n portreadu’r cymeriadau dynol.

 

Ydw i’n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl?

 

Claire

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 27 March 2017 14:39
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Landscapes

 

Dwi’n cael y teimlad, pe bawn i’n gweld llyfr o’r enw “Tirluniau Ceredigion” y byddwn i’n disgwyl llyfr yn trafod tirluniau o Geredigion gan wahanol artistiaid.

 

Lluniau o dirweddau Ceredigion sydd yma, ie?

 

Dal ddim yn sicr chwaith.

 

Siân

 

 

On 27 Mar 2017, at 14:33, Alwyn Jones <[log in to unmask]> wrote:

 

Efallai bydd y diffiniad yma o gymorth

 

Tirwedd

Term cyffredinol i ddisgrifio pryd a gwedd ardal sy'n cynnwys nodweddion naturiol (tirffurfiau) yn ogystal â'r rheiny o wneuthuriad dyn; gw. topograffi.

Geiriadur Termau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol - Gwyddorau Daear

 

2017-03-27 11:12 GMT+01:00 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>:

Gan mai llyfr ydio, "Tirluniau" fyswn i'n ddewis. Maen nhw'n luniau o'r tir. Fyswn i ddim ond yn defnyddio 'tirwedd' wrth drafod y tir ei hun a'i ffurf.

Geraint



On 27/03/2017 08:50, Sian Roberts wrote:

Mae’n un anodd - ond dwi’n meddwl y byddwn i’n mynd am “tirweddau”.  

 

Siân

 

On 26 Mar 2017, at 19:43, anna gruffydd <[log in to unmask]> wrote:

 

Dyna di'r broblam, te! A sut aflwydd mae'r awdur yn mynd i wahaniaethu? Ac ella na fedar o ddim am ei fod yn cyfeirio at y ddau.....

 

Anna


Ye who opt for cut'n'paste

Tread with care and not in haste!

 

2017-03-26 20:36 GMT+02:00 Btinternet <[log in to unmask]>:

Os ydi  landscapes yn cyfeirio at y tir, tirweddau. Os ydi landcapes yn cyfeirio at y lluniau, tirluniau. Ond beryg bod yr awdur yn cyfeirio at y ddau!  

Sent from my iPhone


On 26 Mar 2017, at 18:57, anna gruffydd <[log in to unmask]
> wrote:

Dim help, jyst deud mod i'n aml wedi bod yn yr un penbleth -mi fasa goleuni yn help.

 

Anna


Ye who opt for cut'n'paste

Tread with care and not in haste!

 

2017-03-25 22:15 GMT+01:00 Garry Nicholas <[log in to unmask]>:

Cyfres o luniau o olygfeydd a lleoliadau allan o'r gyfres Y Gwyll yn dwyn y teitl Ceredigion landscapes- ai Tirweddau Ceredigion sy'n gywir yn yr achos hwn neu Tirluniau Ceredigion?
Diolch-Garry

 

 

 

 



 

-- 

Cofion gorau

 

Alwyn


Image removed by sender.

 

 

 



 

--

Cofion gorau

 

Alwyn


Image removed by sender.