Dwi’n meddwl mai ‘tirweddau’ ddylai gael eu defnyddio yma, yn enwedig yng ngoleuni’r hyn sy’n cael ei ddweud ar wefan Darganfod Ceredigion:
“Mae tref Aberystwyth a thirweddau corsydd a ffriddoedd meithion Ceredigion yn 'gymeriadau yn eu hunain' yn ôl cynhyrchwyr cyfres arloesol Y Gwyll / Hinterland. Mae'r rhaglenni ditectif dwyieithog, sydd wedi ennill gwobrau BAFTA am eu technegau ffilmio, yn dangos Ceredigion mewn golau newydd, gyda pob lleoliad yn ychwanegu cefndir diddoroli'r stori yn ogystal a'r lleoliad...”
“Aberystwyth and the landscapes of Ceredigion are 'characters in their own right' according to the producers of Hinterland / Y Gwyll . The acclaimed detective drama shows the landscape of Ceredigion in a new light, each location adding an intrigue of its own to the storylines...”
Hynny yw, ystyrir y tirweddau, fel pethau ffisegol, yn gymeriadau. Maen nhw’n hawlio sylw ar y sgrin yn yr un modd â’r actorion sy’n portreadu’r cymeriadau dynol.
Ydw i’n gwneud unrhyw synnwyr o gwbl?
Claire
Dwi’n cael y teimlad, pe bawn i’n gweld llyfr o’r enw “Tirluniau Ceredigion” y byddwn i’n disgwyl llyfr yn trafod tirluniau o Geredigion gan wahanol artistiaid.
Lluniau o dirweddau Ceredigion sydd yma, ie?
Dal ddim yn sicr chwaith.
Efallai bydd y diffiniad yma o gymorth
Term cyffredinol i ddisgrifio pryd a gwedd ardal sy'n cynnwys nodweddion naturiol (tirffurfiau) yn ogystal â'r rheiny o wneuthuriad dyn; gw. topograffi.
Geiriadur Termau'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol - Gwyddorau Daear
Gan mai llyfr ydio, "Tirluniau" fyswn i'n ddewis. Maen nhw'n luniau o'r tir. Fyswn i ddim ond yn defnyddio 'tirwedd' wrth drafod y tir ei hun a'i ffurf.
Geraint
On 27/03/2017 08:50, Sian Roberts wrote:
Mae’n un anodd - ond dwi’n meddwl y byddwn i’n mynd am “tirweddau”.
Dyna di'r broblam, te! A sut aflwydd mae'r awdur yn mynd i wahaniaethu? Ac ella na fedar o ddim am ei fod yn cyfeirio at y ddau......
Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!
Os ydi landscapes yn cyfeirio at y tir, tirweddau. Os ydi landcapes yn cyfeirio at y lluniau, tirluniau. Ond beryg bod yr awdur yn cyfeirio at y ddau!
Sent from my iPhone
Dim help, jyst deud mod i'n aml wedi bod yn yr un penbleth -mi fasa goleuni yn help.
Ye who opt for cut'n'paste
Tread with care and not in haste!
Cyfres o luniau o olygfeydd a lleoliadau allan o'r gyfres Y Gwyll yn dwyn y teitl Ceredigion landscapes- ai Tirweddau Ceredigion sy'n gywir yn yr achos hwn neu Tirluniau Ceredigion?
Diolch-Garry
--