Term cyffredinol i ddisgrifio pryd a gwedd ardal sy'n cynnwys nodweddion naturiol (tirffurfiau) yn ogystal â'r rheiny o wneuthuriad dyn; gw. topograffi.
Gan mai llyfr ydio, "Tirluniau" fyswn i'n ddewis. Maen nhw'n luniau o'r tir. Fyswn i ddim ond yn defnyddio 'tirwedd' wrth drafod y tir ei hun a'i ffurf.
Geraint
On 27/03/2017 08:50, Sian Roberts wrote:
Mae’n un anodd - ond dwi’n meddwl y byddwn i’n mynd am “tirweddau”.
Siân
On 26 Mar 2017, at 19:43, anna gruffydd <[log in to unmask]> wrote:
Dyna di'r broblam, te! A sut aflwydd mae'r awdur yn mynd i wahaniaethu? Ac ella na fedar o ddim am ei fod yn cyfeirio at y ddau......
Anna
Ye who opt for cut'n'pasteTread with care and not in haste!
2017-03-26 20:36 GMT+02:00 Btinternet <[log in to unmask]com> :
Os ydi landscapes yn cyfeirio at y tir, tirweddau. Os ydi landcapes yn cyfeirio at y lluniau, tirluniau. Ond beryg bod yr awdur yn cyfeirio at y ddau!
Sent from my iPhoneDim help, jyst deud mod i'n aml wedi bod yn yr un penbleth -mi fasa goleuni yn help.
Anna
Ye who opt for cut'n'pasteTread with care and not in haste!
2017-03-25 22:15 GMT+01:00 Garry Nicholas <0000012e9510c754-dmarc-reques[log in to unmask] >:
Cyfres o luniau o olygfeydd a lleoliadau allan o'r gyfres Y Gwyll yn dwyn y teitl Ceredigion landscapes- ai Tirweddau Ceredigion sy'n gywir yn yr achos hwn neu Tirluniau Ceredigion?
Diolch-Garry