Print

Print


Dwi’n meddal mai taflen sy’n hysbysebu ymgeisydd unigol sydd gan Gareth, yn hytrach na ffurflen e.e. ffurflen enwebu.

 

Ymgeisydd am sedd ar y Cyngor Sir yw e, mewn gwirionedd, nid am y Cyngor ei hun, felly dwi ddim yn gwybod ydi “am Gyngor Sir XXX” yn tycio chwaith.

 

Fel dywed Gareth, ‘dros’ sy’n addas ar gyfer yr ardal y bydd yr ymgeisydd yn ei chynrychioli os yw’n ennill – yr etholaeth neu’r ward.  Ond bydd yn cael ei ethol “i’r” Cyngor Sir. Beth am “i Gyngor Sir XXX”, felly?

 

Claire

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Steffan Webb
Sent: 27 March 2017 07:44
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Taflenni etholiad

 

Mae'r ffurflenni hyn ar gael yn Gymraeg yn barod. 

 

 

 

 

 

Enviado desde mi smartphone Samsung Galaxy.

 

 

-------- Mensaje original --------

De: Gareth Jones <[log in to unmask]>

Fecha: 26/3/17 17:36 (GMT+00:00)

Para: [log in to unmask]

Asunto: Taflenni etholiad

 

Dwi wrthi’n cyfieithu taflen ar gyfer ymgeisydd yn etholiadau llywodraeth leol mis Mai.

 

Dyma’r pennawd

 

(Enw’r ymgeisydd) for XXXXXXXX County Council

 

Ai ‘dros’ ydy’r gair priodol? Dwi’n meddwl y byddai ‘dros’ yn addas wrth gyfeirio at etholaeth, e.e. ‘dros Ynys Môn’ ond dwi ddim yn siwr yn yr achos hwn. Mae angen rhywbeth cryno hefyd oherwydd diffyg lle.

 

Sent from Mail for Windows 10