Daeth disgybl am wers Gymraeg y bore 'ma, gan ddod â darn o bapur
a dyweddiad arno yr oedd ffrind iddi wedi'i gael o'i mam, sy'n dod
o Lanrug. Mae ar y ffrind eisiau gwybod ai dywediad go iawn ydy o,
ynteu rhywbeth mae ei mam wedi'i greu. Y gwir yw, wrth gwrs, bod
*rhywun* yn creu pob dywediad yn y lle cyntaf, ac mae hwnnw'n un
da.
Y cyd-destun yw bod rhywun wedi marw, a bod mam y gyfeilles yn
bwriadu mynd i ymweld â'r teulu, er ei bod hi'n sicr y bydd llawer
o ymwelwyr eraill, y naill ar ôl y
llall – "fydda' nhw fatha cadwen winwins". Da ynteu?
Oes 'na rywun wedi'i glywed o'r
blaen?
Diolch,
Ann
--
Ann Corkett
5 Heol Belmont
BANGOR, Gwynedd
LL57 2HS
(01248) 371987
[log in to unmask]