Byw o’r llaw i’r genau hefyd yn awgrymu’r peth ond am wn i bod angen gallu cyfeirio at y bobl eu hunain yn hytrach na’r cyflwr?
Carolyn
Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Mary Jones
Anfonwyd: Dydd Mercher, 15 Mawrth 2017 12:07
At: [log in to unmask]
Pwnc: Re: JAMs - Just About Managing
Sgwn i a fyddai’r ymadrodd ‘dala llygoden a’i bwyta’ yn dderbyniol ledled Cymru?
Mary
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Bethan Mair
Sent: 14 March 2017 15:07
To: [log in to unmask]
Subject: Re: JAMs - Just About Managing
Y diffiniad yn Gymraeg fyddai ‘pobl sy’n gorfod tynnu’n galed i gael dau ben llinyn ynghyd’, yntê? Dyw hwnnw ddim yn gryno chwaith…
Mae ‘cael a chael’ yn ymadrodd oxymoronaidd fyddai’n gweithio yma, efallai – dim ond cael a chael yw hi iddyn nhw bob amser (er nad ydyn nhw’n cael digon o bell ffordd…) - y CACs?!
Bethan
Bethan Mair MA
Y Gwasanaeth Geiriau
The Word Service
07779 102224
Skype: bethanmair54
Ms Bethan Mair Hughes
Y Berth
29 Coed Bach
Pontarddulais
Abertawe / Swansea
SA4 8RB
On 14 Mawrth 2017, at 14:50, Claire Richards <[log in to unmask]> wrote:
JAMs – Just About Managing
Dau ddiffiniad o’r we:
“...people who are “just about managing” financially. They are in employment, but on very low income. Typically, they only just manage to make ends meet, and have very little in the way of savings to cover for emergencies. As a result, they are only just able to keep their heads above water.”
"JAMs describe those people in the bottom half of the income distribution table but above the bottom 10%, who receive no more than one-fifth of their income from means-tested benefits - in other words those in employment but on very low income.”
Pobl sy’n dod i ben / ymdopi o drwch blewyn?
Neu oes gan rywun rywbeth mwy bachog?
Claire
Mae Pennawd Cyf yn gwmni cyfyngedig wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan y rhif cofrestru 4276774, a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig yw 46A Heol Merthyr, yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 1DJ.
Pennawd Cyf is a limited company registered in England and Wales under the number 4276774, and the address of the registered office is 46A Merthyr Road, Whitchurch, Cardiff, CF14 1DJ.