Ydi 'rhyw' yn cyfleu'r un peth ag 'unrhyw'? I mi, ystyr "pobl sy'n dilyn neu ddim yn dilyn rhyw grefydd neu gred" yn Saesneg fyddai "people with or without a particular religion or belief". Mae'n rhaid cyfleu'r ddwy elfen , sef "people with a religion or belief" a hefyd "people without any religion or belief". Claire -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen Sent: 14 March 2017 14:03 To: [log in to unmask] Subject: Re: People with or without a religion or belief Pobl sy'n dilyn neu ddim yn dilyn rhyw grefydd neu gred. On 14/03/2017 09:18, Claire Richards wrote: > Edrychais i ar wefan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, sy'n weddol am gyhoeddi pethau yn Gymraeg. > > Des i o hyd i ddogfen o'r enw "Religion or belief: a guide to the > law", a ynddi dywedir " ‘Religion or belief: a guide to the law’ provides an overview of the protections offered by the Equality Act 2010 and the Human Rights Act 1998 of people with or without a religion or belief". Yn anffodus, yn y fersiwn Gymraeg dywedir " Mae ‘Crefydd neu gred: canllaw i’r gyfraith’ yn cynnig cipolwg o’r diogelwch a gynigir gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Deddf Hawliau Dynol 1998 ar gyfer pobl sydd heb grefydd neu gred". Wps! > > Alla i ddim cael hyd i unrhyw enghraifft arall o'r ymadrodd ar wefan y Comisiwn lle mae cyfieithiad Cymraeg. > > Does dim byd amlwg ar y we mewn mannau eraill, chwaith. > > "pobl sydd â chrefydd neu gred neu heb grefydd neu gred"? > > Neu ydi hynny'n rhy glogyrnaidd? > > Claire > > -----Original Message----- > From: Discussion of Welsh language technical terminology and > vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of > Eirlys Williams > Sent: 13 March 2017 22:15 > To: [log in to unmask] > Subject: People with or without a religion or belief > > Ymadrodd sy'n codi yng nghyd-destun cydraddoldeb - ansicr sut fyddech chi'n geirio "with our without". Oes yna rywun wedi dod o hyd i ffordd dwt o fynegi hyn?