Oes modd galw ‘traed’ arnyn nhw, felly?  Er bod y rhai blaen yn debycach i ddwylo ac yn gallu dal pethau’n reit dwt.

 

Claire

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 08 March 2017 15:03
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Pawen

 

O'n i wedi edrych yn GPC wrth reswm, ond yn dal i deimlo nad oedd 'pawen' yn ddisgrifiad o droed llygoden. I fi, rhywbeth meddal yw pawen.

On 08/03/2017 14:57, Neil Shadrach wrote:

"Troed grafangog neu ewinog mamolyn pedwartroed" yn ôl GPC

 

Ar 8 Mawrth 2017 am 14:50, Claire Richards <[log in to unmask]> ysgrifennodd:

Pawennau sydd gan gwningod, yn ôl I D Hooson.  Tydi llygod ddim yn wahanol iawn i gwningod (OK, tipyn yn llai!)

Claire

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 08 March 2017 14:46
To: [log in to unmask]
Subject: Pawen

Oes gan lygod bawennau?

Mae'n swnio'n iawn i gathod a chwn, a llewod a theigrod ac ati, ond yn swnio'n od yng nghyswllt llygod i fi!

Neu ai fi sy'n gorfeddwl?

Geraint