Print

Print


Diddorol iawn! Diolch.

Sent from my iPhone

On 22 Mar 2017, at 11:40, Mary Jones <[log in to unmask]> wrote:

Doeddwn innau ddim erioed wedi meddwl pam ychwaith. Ond pan gewch chi gyfle,darllenwch yr adran helaeth gan T J Morgan yn Y Treigladau a’u Cystrawen tudalen 394 ymlaen. Dydw i ddim wedi gorffen yr adran i gyd eto, ond mae T J yn awgrymu mai tarddiad ‘mewn’ yw rhyw fath o ffurf ‘imewn’. Felly, ni fyddai treiglad meddal yn dilyn ‘neu’. Rywbeth difyr i’w ddarllen cyn mynd i gysgu heno!

Mary

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn Iorwerth
Sent: 22 March 2017 10:29
To: [log in to unmask]
Subject: ATB/RE: neu - treiglad

 

Mae mewn yn afreolaidd mewn sawl ffordd arall – ac mewn/i mewn i

Carolyn

 

Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Claire Richards
Anfonwyd: Dydd Mercher, 22 Mawrth 2017 10:25
At: [log in to unmask]
Pwnc: neu - treiglad

 

Rydyn ni’n argyhoeddedig nad yw ‘neu’ yn achosi treiglad meddal i’r gair ‘mewn’ os yw’n dod ar ei ôl – “mewn pabell neu mewn carafán”, er enghraifft - ond allwn ni ddim meddwl pam.

 

All rhywun esbonio? Ai’r dosbarth gair yw’r rheswm? 

 

Claire

 

Mae Pennawd Cyf yn gwmni cyfyngedig wedi'i gofrestru yng Nghymru a Lloegr o dan y rhif cofrestru 4276774, a chyfeiriad y swyddfa gofrestredig yw 46A Heol Merthyr, yr Eglwys Newydd, Caerdydd, CF14 1DJ.

 

Pennawd Cyf is a limited company registered in England and Wales under the number 4276774, and the address of the registered office is 46A Merthyr Road, Whitchurch, Cardiff, CF14 1DJ.