Daeth disgybl am wers Gymraeg y bore 'ma, gan ddod â darn o bapur a dyweddiad arno yr oedd ffrind iddi wedi'i gael o'i mam, sy'n dod o Lanrug. Mae ar y ffrind eisiau gwybod ai dywediad go iawn ydy o, ynteu rhywbeth mae ei mam wedi'i greu. Y gwir yw, wrth gwrs, bod *rhywun* yn creu pob dywediad yn y lle cyntaf, ac mae hwnnw'n un da. Y cyd-destun yw bod rhywun wedi marw, a bod mam y gyfeilles yn bwriadu mynd i ymweld â'r teulu, er ei bod hi'n sicr y bydd llawer o ymwelwyr eraill, y naill ar ôl y llall – "fydda' nhw fatha cadwen winwins". Da ynteu? Oes 'na rywun wedi'i glywed o'r blaen? Diolch, Ann -- Ann Corkett 5 Heol Belmont BANGOR, Gwynedd LL57 2HS (01248) 371987 [log in to unmask]