|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
||
Lansio prosiect treftadaeth arfordirol a newid yn yr hinsawdd
Bydd prosiect ymchwil Ewropeaidd gwerth miliynau o bunnoedd, a fydd yn ymchwilio i beryglon newid
yn yr hinsawdd o safbwynt tirweddau arfordirol Cymru ac Iwerddon, yn cael ei lansio’n swyddogol ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Iau 23 Mawrth 2017. Gyda chymorth ariannol o €4.1m gan raglen Cymru-Iwerddon yr Undeb Ewropeaidd, mae prosiect CHERISH
(Hinsawdd, Treftadaeth ac Amgylcheddau Riffiau, Ynysoedd a Phentiroedd)
yn cael ei arwain gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru mewn cydweithrediad â Phrifysgol Aberystwyth. Mae dau bartner yn Iwerddon hefyd yn rhan o’r astudiaeth bum mlynedd – Canolfan Archaeoleg ac Arloesi
Iwerddon (The Discovery Programme), ac Arolwg Daearegol Iwerddon. Bydd yn prosiect yn canolbwyntio ar y pentiroedd a’r ynysoedd o amgylch Sir Benfro, Bae Ceredigion
a Phen Llŷn, ynghyd â safleoedd ar arfordir de a dwyrain Iwerddon. Defnyddir y technolegau diweddaraf i ddadansoddi archaeoleg yr arfordir a’r ynysoedd a’r safleoedd
treftadaeth forol sydd wedi gweld yr effaith fwyaf yn sgil newid yn yr hinsawdd, erydu arfordirol, stormydd a lefel y môr sy’n codi o hyd. Bydd y prosiect yn ariannu gwaith cloddio newydd, cofnodi newidiadau amgylcheddol, mapio morol a
modelu’r tirwedd. Un o nodau’r prosiect yw datgelu rhai o’r cyfrinachau sydd o’r golwg o dan y dŵr o amgylch Cymru
ac Iwerddon, gan gynnwys hen longddrylliadau. Mae Dr Toby Driver yn Uwch Ymchwilydd i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru: “Bydd ein cyd-ymchwilwyr
yn Iwerddon yn defnyddio cwch ag offer arbennig i gynnal arolygon aml-baladr o dan y môr, a thrwy ddefnyddio’r dulliau mapio morol diweddaraf, byddwn yn gallu casglu delweddau eglur iawn o longddrylliadau a aeth i drafferthion o dan y dŵr mewn mannau fel Sarn
Badrig ger Harlech. Bydd rhai wedi bod yno am hyd at bedair canrif, a dyma fydd y tro cyntaf i rai ohonynt gael eu gweld o dan y dŵr.
“Byddwn hefyd yn edrych ar dwyni tywod Niwbwrch yn Ynys Môn, lle dywedir i bentref cyfan gael ei
gladdu o dan y tywod gannoedd o flynyddoedd yn ôl. Ymhlith y lleoliadau eraill bydd Ynysoedd y Moelrhoniaid, Stagbwll ac ynysoedd Sir Benfro yn ogystal â safleoedd ar arfordir Iwerddon.” Bydd Prifysgol Aberystwyth yn cyfrannu at y bartneriaeth drwy ddatblygu cofnodion eglurder iawn o
newidiadau amgylcheddol gan ddefnyddio cofnodion gwaddodol a hanesyddol, dan arweiniad Dr Sarah Davies, Darllenydd yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear (ADGD). “Mae gwaddodion mewn dyddodion mawn arfordirol, fel y rhai yng Nghors Fochno yn y Borth, yn ogystal
ag mewn rhwydweithiau twyni a morlynnoedd, yn darparu cofnod manwl o newidiadau yn yr hinsawdd yn y gorffennol. Mae gennym ddiddordeb arbennig yn y ffordd y mae gweithgarwch stormydd wedi amrywio dros y mil o flynyddoedd diwethaf, a’r gwersi y gall hanes eu
dysgu i ni heddiw. “Dros raddfeydd amser hanesyddol, gall cofnodion dogfennol hefyd ddarparu gwybodaeth werthfawr am
natur gweithgarwch stormydd wrth iddo newid – a sut y mae cymunedau wedi ymdopi â byw mewn amgylcheddau arfordirol deinamig,” meddai Dr Davies. Bydd y prosiect o gymorth i strategaethau newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol oherwydd bydd yn cynnig
dealltwriaeth fwy trylwyr o newidiadau mwy hirdymor i dreftadaeth ac amgylcheddau arfordirol Cymru ac Iwerddon, sy’n denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Cynhelir digwyddiadau cyhoeddus i rannu gwybodaeth am y canfyddiadau a threfnir sesiynau hyfforddi
i helpu i ddatblygu cyfleoedd twristiaeth. Dywedodd Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru Mark Drakeford: “Mae'r prosiect hwn
yn gyfle i Gymru ac Iwerddon ddod at ei gilydd i fynd i'r afael â rhai o'r heriau ry’n ni’n eu hwynebu o ganlyniad i’r newid yn yr hinsawdd a'r amgylchedd yn ein hardaloedd arfordirol. Mae'n hynod o bwysig bod safleoedd treftadaeth ac adnoddau sydd mewn perygl
o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd yn cael eu diogelu, ac mae'n bleser gweld y bydd y buddsoddiad hwn hefyd yn cefnogi cyfleoedd newydd i sector twristiaeth y ddwy wlad.” Yn ogystal â €4.1m o arian yr Undeb Ewropeaidd, cyd-ariennir CHERISH ag €1.1m gan y sefydliadau sy'n
cymryd rhan yn y prosiect. Cysylltiadau:
Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear
https://www.aber.ac.uk/en/iges Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru
www.cbhc.gov.uk Rhaglen Iwerddon-Cymru
http://irelandwales.ie Am fwy o wybodaeth: Dr Toby Driver, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru 01970 621207 |
[log in to unmask] Esther Prytherch, Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus, Prifysgol Aberystwyth |
Coastal heritage and climate change project launched
A multi-million pound European research project investigating the risks of climate change to the coastal landscapes
of Wales and Ireland will be officially launched at Aberystwyth University on Thursday 23 March 2017.
With funding of €4.1m from the EU’s Ireland-Wales programme, the CHERISH (Climate, Heritage and Environments
of Reefs, Islands and Headlands) project is being led by the Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales (RCAHMW) in collaboration with Aberystwyth University. Two Irish partners are also involved in the five-year study - the Discovery Programme: Centre for Archaeology
and Innovation Ireland, and the Geological Survey, Ireland. The project will focus on the headlands and islands around Pembrokeshire, Cardigan Bay and the Llŷn Peninsula
and sites along the south and east coast of Ireland. Cutting-edge technologies will be used to analyse coastal and island archaeology and maritime heritage sites
most affected by climate change, coastal erosion, storms and rising sea levels. The project will fund new excavations, records of environmental change, marine mapping and landscape modelling.
One of the aims is to uncover some of the secrets hidden beneath the coastal waters around west Wales and Ireland,
including ancient shipwrecks. Dr Toby Driver is a Senior Investigator at the Royal Commission on Ancient and Historic Monuments Wales: “Our
fellow researchers from Ireland will use a specially equipped boat to carry out multi beam surveys under the sea and thanks to cutting-edge marine mapping, we’ll be able to take high-resolution images of the wrecks that foundered on undersea locations such
as Sarn Badrig near Harlech. Some will have been there for up to four centuries and it will be the first time many of them will ever have been seen under water.
“We’ll also be looking at Newborough Warren on Anglesey where a whole village is said to have been buried in
sand hundreds of years ago. Other areas include the Skerries, Stackpole and the islands of Pembrokeshire as well as Irish coastal sites.”
Aberystwyth University’s contribution to the partnership will focus on the development of high resolution records
of environmental change from sedimentary and historical records, and is being led by Dr Sarah Davies, a Reader in the Department of Geography and Earth Sciences (DGES).
“Sediments in coastal peat deposits, such as those at Cors Fochno (Borth Bog), as well as those in lagoons
and dune systems, provide a detailed record of past climatic change. We’re particularly interested in how storm activity has varied over the last few thousand years and the lessons we can learn today from history.
“Over historical timescales, documentary records can also provide valuable information about the changing nature
of storm activity – and how communities coped with living in dynamic coastal environments,” said Dr Davies.
The project will support future strategies on climate change by providing a deeper understanding of longer-term
changes to Wales and Ireland’s heritage and coastal environments, which attract thousands of visitors each year. Public events will be held to share information about the findings and training sessions will be arranged to
support the development of tourism opportunities. Welsh Government Finance Secretary Mark Drakeford said: “This project brings Wales
and Ireland together to tackle some of our shared challenges around climate and environmental changes in our coastal regions. It’s very important that heritage sites and assets under threat from climate change are protected, and I’m pleased this investment
will also support new opportunities for the tourism sector in both nations.” In addition to €4.1m of EU funds, CHERISH is being co-financed by €1.1m from the participating organisations.
Links:
Department of Geography and Earth Sciences
https://www.aber.ac.uk/en/iges RCAHMW
www.rcahmw.gov.uk Ireland Wales Programme
http://irelandwales.ie Further Information: Dr Toby Driver, RCAHMW 01970 62 |
[log in to unmask] Esther Prytherch, Communications and Public Affairs, Aberystwyth University |
|
|
||
|