**Neges ddwyieithog yw hon - Gweler isod ar gyfer y fersiwn Saesneg / This is a bilingual message - Please see below for English version**
Ffotograffiaeth Digidol o Gasgliadau
Diwrnod 1 |
|
Diwrnod 2 |
|
Swyddfa Llywodraeth Cymru, Cyffordd Llandudno |
23 Mai 2017 |
Swyddfa Llywodraeth Cymru, Cyffordd Llandudno |
20 Mehefin 2017 |
|
|
|
|
Swyddfa Llywodraeth Cymru, Merthyr Tudful |
25 Mai 2017
Wedi’i llenwi
|
Swyddfa Llywodraeth Cymru, Merthyr Tudful |
22 Mehefin 2017
Wedi’i llenwi
|
Bydd yr hyfforddiant hwn yn cael ei ddarparu drwy gyfrwng y Saesneg.
Mae Llywodraeth Cymru’n darparu'r cwrs deuddydd hwn yn rhad ac am ddim i staff a gwirfoddolwyr sy'n gweithio yn amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd Cymru. Mae'n addas ar gyfer y rheini sy’n
gyfrifol am dynnu lluniau o gasgliadau.
Nod
Nod y sesiwn hon yw dysgu’r rheini sydd ar y cwrs y ffordd orau o dynnu lluniau digidol o’u casgliadau ynghyd â sgiliau sganio.
Erbyn diwedd y dydd, bydd y rheini sy’n dilyn y cwrs yn gallu:
- Dysgu sut mae defnyddio a manteisio i’r eithaf ar osodiadau’r camera
- Tynnu lluniau o wrthrychau 2D a 3D yn llwyddiannus.
- Datrys problemau gyda ffocysu
- Deall egwyddorion tynnu lluniau a sut mae paratoi ar gyfer tynnu lluniau o gasgliadau
- Defnyddio gwahanol siartiau a graddfeydd lliw
- Deall sut mae defnyddio meddalwedd sganio
- Dysgu sut i dynnu lluniau effeithiol sy’n hawdd i’w hatgynhyrchu
Dulliau Hyfforddi
Bydd y cwrs yn cynnwys sesiynau ymarferol a theori. Yn y sesiynau theori, byddwn yn defnyddio sleidiau PowerPoint. Yn y sesiynau ymarferol, byddwn yn gofyn i’r cyfranogwyr ddod ag eitemau gyda
hwy i’r cwrs fel y gallan nhw dynnu lluniau ohonynt.
Yn ystod y cwrs, ceisiwch ddefnyddio offer/camerâu eich sefydliad. Os na fydd hynny’n bosibl, bydd cyfarpar ar gael ichi ddefnyddio ar y diwrnod.
Diwrnod Un
Yn ystod y diwrnod cyntaf, byddwn yn trafod theori ffotograffiaeth.
Eich gwaith cartref fydd defnyddio’r hyn yr ydych chi wedi’i ddysgu ar y cwrs hyd yma a thynnu lluniau o eitemau yn eich casgliadau. Yn ystod yr ail ddiwrnod, bydd cyfle i drafod y lluniau y byddwch
wedi’u tynnu yn ogystal ag unrhyw broblemau y daethoch ar eu traws.
Diwrnod Dau
Yn ystod yr ail ddiwrnod, byddwn yn trafod sut i oleuo a sganio eitemau 3D yn ogystal â’r elfennau ymarferol o dynnu lluniau. Hefyd, byddwn yn trafod ffyrdd syml o olygu delweddau.
Paratoi
Rydym yn gofyn i gyfranogwyr ystyried a chyflwyno atebion i’r cwestiynau canlynol. Bydd yr atebion yn helpu llunio cynnwys a ffocws yr ail ddiwrnod:
- Beth yw gwneuthuriad eich camera? Pa system oleuo ydych chi’n ei defnyddio? Pa feddalwedd sganio ydych chi’n ei defnyddio?
- Beth hoffech chi ddysgu ei wneud gyda’r camera/offer?
- Beth sy’n achosi’r problemau mwyaf i chi wrth dynnu lluniau o’ch casgliadau?
- Oes gennych chi unrhyw ddogfennau polisi neu ganllawiau y mae’n rhaid i chi lynu wrthyn nhw wrth fynd ati i dynnu lluniau digidol o’ch casgliadau?
Hyfforddwr
Michael Halliwell
Tan 2009, Michael oedd Ffotograffydd Cadwraeth y Textile Conservation Centre ym Mhrifysgol Southampton.
Mae ganddo radd o Sefydliad Archaeoleg Coleg Prifysgol Llundain.
Datganiad o ddiddordeb
Mae ceisiadau yn cael eu cyfyngu i 2 ar gyfer pob sefydliad, fodd bynnag, rydym yn hapus i roi unrhyw geisiadau eraill ar restr aros rhag ofn na fydd y cwrs yn llawn. Unwaith y byddwch wedi cyflwyno
eich cais, cewch neges a gynhyrchir yn awtomatig i gadarnhau bod eich cais wedi ei dderbyn. Nodwch nad yw eich lle yn warantedig hyd nes y byddwch yn derbyn gwahoddiad i'r cwrs gan MALD.
Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Os bydd eich amgylchiadau’n newid ac na fyddwch yn gallu mynd ar y cwrs wedi'r cyfan, cysylltwch â Seaneen McGrogan ar unwaith drwy e-bostio
[log in to unmask] neu ffoniwch 0300 062 2261 er mwyn i rywun arall ar y rhestr aros allu mynd yn eich lle.
Ni fyddwn bellach yn darparu cinio ar gyfer digwyddiadau hyfforddi er mwyn i ni allu cynnal amrywiaeth mor eang â phosibl o gyfleoedd hyfforddi. Serch hynny, byddwn yn
parhau i gynnig te a choffi wrth i chi gyrraedd ac yn ystod egwyliau. Byddwn hefyd yn darparu gwybodaeth am y darparwyr bwyd lleol sydd gerllaw lleoliad yr hyfforddiant.
Bydd pob gohebiaeth sy'n ymwneud â'r cwrs hwn yn cael ei hanfon atoch yn electronig ar ôl ichi gofrestru; felly, gofynnwn am gyfeiriad e-bost unigol ar gyfer pob cynrychiolydd.
Digital Photography of Collections
Day 1 |
|
Day 2 |
|
Welsh Government Offices, Llandudno Junction |
23rd May 2017 |
Welsh Government Offices, Llandudno Junction |
20th June 2017 |
|
|
|
|
Welsh Government Offices, Merthyr Tydfil |
25th May 2017
Full
|
Welsh Government Offices, Merthyr Tydfil |
22nd June 2017
Full
|
This training will be delivered through the medium of English
This free two day course is provided by the Welsh Government and is open to staff and volunteers working in museums, archives and libraries in Wales. It is suitable for those who have
a responsibility for photographing items in their collections.
Aim
The aim of the session is to enable delegates to get the best results from their digital photography and scanning efforts.
By the end of the course participants will be able to
- Understand their camera settings, find and change them appropriately
- Take appropriate pictures of 2D and 3D objects.
- Resolve focusing issues
- Understand the principles of, and set up a shoot
- Use colour charts and scales
- Understand the scanning software and process
- Learn to produce consistent and reproducible images
Training Methods
There will be both theory and practical sessions. There will be the use of power point in the discussion sessions. In the practical sessions delegates will use cameras and equipment to set up a
shot and to photograph items.
You are encouraged to use your organisation’s camera in the session. There will be kit available to use on the day.
Day one
This will cover the theory of photography.
You will be set homework to go away and photograph things in your collection using you new knowledge. There will be an opportunity in day two to discuss any problems you came across.
Day two
This will cover lighting theory for 3D things, scanning and we will work through practical examples. We will also cover some basic image editing.
Delegates are asked to consider and submit answers to the following questions. The answers will inform the content and focus of the two day session:
- What equipment do you have? Camera / lighting / software
- What do you want to learn to do with your equipment?
- What are your specific photography challenges?
- Do you have any policy documents or guidelines that inform your approach to digital photography?
Trainer
Michael Halliwell
Conservation Photographer at the Textile Conservation Centre, University of Southampton until 2009.
Graduate of the Institute of Archaeology, London, Conservation programme
Expression of interest
Requests are limited to 2 per organisation however we are happy to waitlist any others in the event the course is not fully subscribed. Once you have submitted your request your will receive an
automatically generated message to confirm that your request has been received. Please note your place is not guaranteed until you receive an invitation to the course from MALD.
Spaces are limited. If your circumstances subsequently change and you can no longer attend notify Seaneen McGrogan immediately on [log in to unmask]">[log in to unmask]
or 0300 062 2261 so your place can be awarded to someone on the waitlist.
In order to maintain as wide a range of training opportunities as possible MALD will no longer provide lunch for training events. We will continue to provide tea and coffee on
arrival and during breaks. We will also provide information on available food providers located conveniently near the venue.
All correspondence relating to this course will be sent out electronically once you have registered; therefore you must supply an individual email address for each delegate.
Meleri Lloyd
Cynorthwy-ydd Casgliadau, Safonau a Hyfforddiant
Collections, Standards and Training Assistant
Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd
Museums, Archives and Libraries Division
Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Department for Economy, Science and Transport
Llywodraeth Cymru / Welsh Government
Rhodfa Padarn, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UR
0300 062 2458
Hapus i gyfathrebu’n Saesneg neu yn y Gymraeg / Happy to communicate in English or Welsh