Print

Print


Diolch yn fawr iawn Siân. Lot mwy o ysbrydoliaeth na fi ar nos Wener a chynigion da!

 

Dwi eisoes wedi dweud wrth y cwsmer (a oedd eisiau’r peth yn ôl gyda’r troad wrth gwrs, gan mai dim ond tri gair ydio!) nad ydio’n gweithio o’i gyfieithu’n llythrennol ac y bydd yn rhaid i ni feddwl yn fwy creadigol yn Gymraeg.

 

Diolch eto.

Rhian

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 03 February 2017 17:46
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Choose your 'you'

 

Hm!

Fyddai “Dewiswch yr un i chi” yn gweithio? Neu “P’un ydych chi?” neu “P’un yw’r un i chi?”

 

Dim cweit run peth chwaith.

 

Siân

 

On 3 Feb 2017, at 17:42, Rhian Huws <[log in to unmask]> wrote:

 

Noswaith dda gyfeillion

 

Mae gen i un o’r sloganau yna sydd jest ddim yn gweithio yn Gymraeg! 

 

Gyrfaoedd sydd dan sylw ac mae yna res o ddoliau wedi’u gwisgo fel gwahanol alwedigaethau e.e. cogydd, meddyg ac yn y blaen. Yna llaw yn dod i mewn o dop y poster i ddewis un ohonyn nhw.

 

Yn ddiolchgar am unrhyw syniadau.

 

Rhian