Bore Da gyfeillion Tybed allai holi barn y cylch am y cyfieithiad gorau o ‘pixie’? ‘Coblyn’ neu ‘pwca’ yn ôl y geiriadur – rwy’n gyfarwydd â ‘coblyn’ ond nid ‘pwca’. Mae’r deunyddiau wedi’u hanelu at blant blwyddyn 2. I’r rhai ohonoch chi sy’n ymwneud â’r byd addysg, fyddai plant o’r oedran yna’n gyfarwydd â’r geiriau hyn? Dwi eisoes wedi awgrymu efallai y gallen nhw ystyried ‘tywlythen deg’ neu ‘corach’, a fyddai o bosibl yn fwy cyfarwydd. Diolch ymlaen llaw am unrhyw sylwadau. Rhian