On 21 Feb 2017, at 12:24, Ann Corkett <[log in to unmask]> wrote:Maiasaura Maiasora ?
OS enw ar grwp, yna byddai maiasoriaid neu maiasora +[yn iawn]. A oes enwau *eraill* yn diweddu mewn "-saura"?
Troodon Trwdon ? Na
tro"odon (h.y. gyda diaresis uwchben yr "o" gyntaf)
Cymharer: so"oleg, nid swoleg.
Ceratopsian dinosaurs Deinosoriaid ceratopsaidd / Deinosoriaid seratopsaidd ?
Y cyntaf. Daw'r elfen "cera" o'r Groeg: "kera" (=corn), nid "sera".
Oviraptors Ofiraptor ?
wygipiwr (wygipwyr), gan mai dyna ystyr yr enw. (Cymharer: velociraptor – chwimgipiwr (chwimgipwyr) (os cofiaf yn iawn!)
Protoceratops Protoceratops / Protoseratops ?
Y cyntaf
Psittacosaurus Sitacosorws ?
psitacosor. Yng Ngeiriadur yr Academi, penderfynwyd glynu at y terfyniad "-sor" ar gyfer pob enw yn "-saurus", e.e. tyrannosaurus – tyranosor.
Hefyd yn GyrA, penderfynwyd cadw'r "p-" yn "psitacosis".
frill coler ?
Os yw am y gwddf, yna "coler" (crych / grech] yn iawn, neu "torch" (enw benywaidd) ond os yw ar y pen, neu ar hyd y cefn, yna "crib [crych / grech].
Yixian Formation Ffurfiant Yicsaidd ?
Ni "Yix" yw enw'r lle yn Tsieina, ond "Yixian"! Defnyddir yr enw fel ansoddair, fel mewn "London taxi". Felly "ffurfiant Yicsian".
Nid oes angen priflythrennau ar gyfer enwau deinosoriaid, heblaw priflythyren i air cyntaf enw Lineaidd Lladin.
Bruce
Nodyn Ann: Anfonaf gopi o'r uchod at Deri hefyd. Hyd yn oed os bydd o wedi trafod rhai o'r enwau uchod ar lafar, efallai nad ydy o eto wedi ystyried eu sillafiad.
On 20/02/2017 23:40, Sian Roberts wrote:[log in to unmask]" type="cite" style="font-family: Helvetica; font-size: 12px; font-style: normal; font-variant: normal; font-weight: normal; letter-spacing: normal; line-height: normal; orphans: auto; text-align: start; text-indent: 0px; text-transform: none; white-space: normal; widows: auto; word-spacing: 0px; -webkit-text-stroke-width: 0px; background-color: rgb(255, 255, 255);" class="">Rwy’n gweithio ar ddarn yn ymwneud â deinosoriaid. Tybed a all rhywun helpu â rhai o’r termau? Maiasaura Maiasora ? Troodon Trwdon ? Ceratopsian dinosaurs Deinosoriaid ceratopsaidd / Deinosoriaid seratopsaidd ? Oviraptors Ofiraptor ? Protoceratops Protoceratops / Protoseratops ? Psittacosaurus Sitacosorws ? frill coler ? Yixian Formation Ffurfiant Yicsaidd ? Diolch ymlaen llaw Siân ----- No virus found in this message. Checked by AVG - www.avg.com Version: 2016.0.7998 / Virus Database: 4756/13985 - Release Date: 02/20/17