Y prostad neu y brostad - does dim ots, nagoes. Prun bynnag sy'n dod yn fwya naturiol i chi.  

Y prostad fyswn i'n tueddu i ffafrio. 

Geraint

Anfonwyd o fy ffôn-i

On 11 Ion 2017, at 20:07, Carolyn Iorwerth <[log in to unmask]> wrote:

Ond yr ymadrodd sy’n digwydd amlaf yw chwarren y brostad (felly mae’n cael ei ddefnyddio fel enw nid fel ansoddair)

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Non Richards
Sent: 11 Ionawr 2017 19:27
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB/RE:

 

Chwarren (enw benywaidd) yw Gland

Prostad (yn gallu bod yn ansoddair neu enw benywaidd) yw Prostate.

 

Yn yr enghraifft isod:

 

Chwarren Prostad

(Eb).          (Ans.)

 

Mae 'prostad' yn ansoddair achos fod y gair yn disgrifio'r fath o chwarren.

 

 

Sent from my iPhone


On 11 Jan 2017, at 18:54, Carolyn Iorwerth <[log in to unmask]> wrote:

Ond dydy’r ffaith fod ‘chwarren’ yn fenywaidd ddim yn golygu bod ‘prostad’ yn fenywaidd nac ydi? Byddwn i wedi meddwl mai e.b. oedd prostad ond dw i ddim yn meddwl mai’r elfen ‘chwarren’ sy’n gyfrifol am hynny?

 

Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Eluned Mai
Anfonwyd: Dydd Mercher, 11 Ionawr 2017 18:28
At: [log in to unmask]
Pwnc:

 

Chwarren ydy prostad - felly benywaidd (os nad oes eithriadau)?

 

2017-01-11 15:37 GMT+00:00 Carolyn Iorwerth <[log in to unmask]>:

Mae ‘prostad’ yng Ngeiriadur yr Academi a geiriaduron eraill yn e.b. ond mae Term Cymru’n rhoi ‘Canser y prostad’ am ‘prostate cancer’ ac mae ‘na fwy o enghreifftiau o ‘canser y prostad’ wrth Wglo nag o ‘ganser y brostad’.

 

Be di’r farn?

Carolyn