Y prostad neu y brostad - does dim ots, nagoes. Prun bynnag sy'n dod yn fwya naturiol i chi. Y prostad fyswn i'n tueddu i ffafrio. Geraint Anfonwyd o fy ffôn-i > On 11 Ion 2017, at 20:07, Carolyn Iorwerth <[log in to unmask]> wrote: > > Ond yr ymadrodd sy’n digwydd amlaf yw chwarren y brostad (felly mae’n cael ei ddefnyddio fel enw nid fel ansoddair) > > From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Non Richards > Sent: 11 Ionawr 2017 19:27 > To: [log in to unmask] > Subject: Re: ATB/RE: > > Chwarren (enw benywaidd) yw Gland > Prostad (yn gallu bod yn ansoddair neu enw benywaidd) yw Prostate. > > Yn yr enghraifft isod: > > Chwarren Prostad > (Eb). (Ans.) > > Mae 'prostad' yn ansoddair achos fod y gair yn disgrifio'r fath o chwarren. > > > > Sent from my iPhone > > On 11 Jan 2017, at 18:54, Carolyn Iorwerth <[log in to unmask]> wrote: > > Ond dydy’r ffaith fod ‘chwarren’ yn fenywaidd ddim yn golygu bod ‘prostad’ yn fenywaidd nac ydi? Byddwn i wedi meddwl mai e.b. oedd prostad ond dw i ddim yn meddwl mai’r elfen ‘chwarren’ sy’n gyfrifol am hynny? > > Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Eluned Mai > Anfonwyd: Dydd Mercher, 11 Ionawr 2017 18:28 > At: [log in to unmask] > Pwnc: > > Chwarren ydy prostad - felly benywaidd (os nad oes eithriadau)? > > 2017-01-11 15:37 GMT+00:00 Carolyn Iorwerth <[log in to unmask]>: > Mae ‘prostad’ yng Ngeiriadur yr Academi a geiriaduron eraill yn e.b. ond mae Term Cymru’n rhoi ‘Canser y prostad’ am ‘prostate cancer’ ac mae ‘na fwy o enghreifftiau o ‘canser y prostad’ wrth Wglo nag o ‘ganser y brostad’. > > Be di’r farn? > Carolyn > >