Mewn sylwebaeth mi fyddwn i yn dweud: 
Mae ambiwlans yn cwrso'r bas yna
neu
Mae'r bas yna yn arwain at - Glangwili, Glan Clwyd neu Bronglas falle!

Mi fydda i hefyd yn son am dim 

"Sydd ar y rhaffau"
neu
"Sydd a'u cefnau at y wal"

ac am

"Bysgota yn y pyllau dyfnaf os am ennill hon"

Wyn

Sent from my iPad

On 6 Jan 2017, at 14:07, Mary Jones <[log in to unmask]> wrote:

A gaf fi gynnig ‘hospital pass?’!! Mae’n rhaid bod yna ymadrodd Cymraeg cyfatebol: cewch chi feddwl amdano!

Mary

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of wyn gruffydd
Sent: 06 January 2017 13:31
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Ymadroddion sy'n deillio o fyd chwaraeon

 

Claire,



Dyma rhai awgrymiadau - a chydig o hwyl ar ddiwrnod glawog - o gyfleu'r ystyr yn hytrach na chyfieithu yn slafaidd o'r Saesneg. Y trafferth yw wrth gwrs fod pawb yn gwybod taw benthyg idiomau o'r Saesneg fyddwn ni ar gyfer gemau sydd â'u gwreiddiau yn Lloegr yn ogystal a'u termau a'u rheolau. 

 

A straight bat. Mor onest â'r dydd - yn "dangos bat syth".

On the ball. Ar ei gwar hi.

Drop the ball. Tynnu/Cymryd ei lygaid oddi ar y bêl.

Level playing field. Maes gwastad -sef i fod yn deg â phawb. 

Move the goalposts. Pwy symudodd y pyst? 

No holds barred [o fyd reslo mae'n debyg] Pawb dros ei hunan  - a Duw dros bawb! h.y does dim rheolau.

Throw in the towel. Rhoi'r ffidil yn y to.

The whole nine yards. Torri'r siwt yn ôl y brethyn. [Daw'r idiom yma o America ble ystyrir fod angen naw llath o defydd i wneud siwt dda.]  

 

Wyn Gruffydd

 


From: Claire Richards <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Friday, 6 January 2017, 9:30
Subject: Ymadroddion sy'n deillio o fyd chwaraeon

 

Wedi bod yn pendroni am y rhain.

 

Mae’n debyg bod “taro naw” yn dod o gêm sgitls, sy’n cael ei chwarae, yn draddodiadol, gyda naw sgitlen.

 

A fyddai pobl yn derbyn “bod ar y bêl” i olygu “bod o gwmpas eich pethau”?

 

Hefyd, beth am “symud y pyst”?

 

Claire