Claire,
Dyma rhai awgrymiadau - a chydig o hwyl ar ddiwrnod glawog - o gyfleu'r ystyr yn hytrach na chyfieithu yn slafaidd o'r Saesneg. Y trafferth yw wrth gwrs fod pawb yn gwybod taw benthyg idiomau o'r Saesneg fyddwn ni ar gyfer gemau sydd â'u gwreiddiau yn Lloegr yn ogystal a'u termau a'u rheolau.
A straight bat. Mor onest â'r dydd - yn "dangos bat syth".
On the ball. Ar ei gwar hi.
Drop the ball. Tynnu/Cymryd ei lygaid oddi ar y bêl.
Level playing field. Maes gwastad -sef i fod yn deg â phawb.
Move the goalposts. Pwy symudodd y pyst?
No holds barred [o fyd reslo mae'n debyg] Pawb dros ei hunan - a Duw dros bawb! h.y does dim rheolau.
Throw in the towel. Rhoi'r ffidil yn y to.
The whole nine yards. Torri'r siwt yn ôl y brethyn. [Daw'r idiom yma o America ble ystyrir fod angen naw llath o defydd i wneud siwt dda.]
Wyn Gruffydd
Wedi bod yn pendroni am y rhain.
Mae’n debyg bod “taro naw” yn dod o gêm sgitls, sy’n cael ei chwarae, yn draddodiadol, gyda naw sgitlen.
A fyddai pobl yn derbyn “bod ar y bêl” i olygu “bod o gwmpas eich pethau”?
Hefyd, beth am “symud y pyst”?
Claire