Mae gan 'frequent flyers' awgrym o or-ddefnyddio i mi. 

Anfonwyd ar fy ffôn iDot

On 27 Ion 2017, at 17:47, Non Richards <[log in to unmask]> wrote:

Ie, 'na ti Rhian.

Sent from my iPhone

On 27 Jan 2017, at 17:39, Rhian Huws <[log in to unmask]> wrote:

Dwi’n credu fy mod i wedi defnyddio ‘defnyddwyr cyson’ o’r blaen – pobl sy’n defnyddio gwasanaethau’r GIG yn gyson ydyn nhw ie?

 

Rhian

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Non Richards
Sent: 27 January 2017 17:18
To: [log in to unmask]
Subject: Re: frequent flyers

 

Dw i'm yn siwr sdi Geraint.

 

Galla i wirio o fewn y GIG os ydan ni'n cyfeirio at 'Gleifion' fel 'Cwsmeriaid' fel rheol, pan fyddai nôl yn y gwaith ddydd Llun.

 

Os y gallith Osian aros tan hynny?

 

Oes 'na rywun yn y fforwm yma wedi defnyddio'r term cwsmeriaid am gleifion yn y gorffennol?

 

Deall yn iawn o ble mae Claire yn dod o hefyd, cofia.

 

Cleifion cyson?

 



Sent from my iPhone


On 27 Jan 2017, at 16:51, Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> wrote:

Dim byd o'i le ar cwsmeriaid cyson, nagoes?

On 27/01/2017 16:48, Non Richards wrote:

Beth am:

 

Cleifion sy'n ymweld yn rheolaidd.

Ymwelwyr Rheolaidd.

Gorddefnyddwyr Rheolaidd.

 

Tybed os oes idiom rhywle fasa'n ffitio'n well?..

Sent from my iPhone


On 27 Jan 2017, at 12:48, Claire Richards <[log in to unmask]> wrote:

Fyddai ‘cwsmeriaid rheolaidd’ yn cyfleu’r un ystyr a chywair?

 

Claire

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Osian Rhys
Sent: 27 January 2017 12:39
To: [log in to unmask]
Subject: frequent flyers

 

Pnawn da gyfeillion

Mae'r term yma'n ymwneud â'r gwasanaeth iechyd mae'n debyg! Pobl sy'n gorddefnyddio'r gwasanaeth iechyd, ym marn rhai beth bynnag. Newydd ffeindio diffiniad:

Among health professionals, they're known as "frequent flyers" - the patients who regularly go to hospital with conditions ranging from asthma to arthritis.

 

Yn amlwg mae'r term yn dod o'r byd hedfan yn wreiddiol, ond dw i ddim yn gwybod oes angen cadw'r cysylltiad hwnnw mewn gwirionedd. A deud y gwir dw i ddim yn siŵr lle i ddechre!

Osian