Print

Print


Ond mae "cyson" yn gweithio'n dda ac mae gallu cadw'r cyflythrennu'n wych
hefyd!

Diolch

Osian


Ar 27 Ionawr 2017 am 14:58, Cyfri Dot <[log in to unmask]>
ysgrifennodd:

> Cytuno Osian. O'n i'n amsu'r gair cleifion gan mai natur y bobl yma yn aml
> yw nad ydyn nhw'n gleifion mewn gwirionedd!
> Catrin
>
> Anfonwyd ar fy ffôn iDot
>
> On 27 Ion 2017, at 14:48, Osian Rhys <[log in to unmask]> wrote:
>
> Diolch yn fawr i chi Claire a Catrin. Os ca i, mi gyfuna i eich
> awgrymiadau chi'ch dwy, a mynd am *cwsmeriaid cyson* sy'n cyfleu ychydig
> o naws y gwreiddiol hefyd dw i'n meddwl. Diolch yn fawr iawn.
>
> Osian
>
>
>
> Ar 27 Ionawr 2017 am 12:47, Claire Richards <[log in to unmask]>
> ysgrifennodd:
>
>> Fyddai ‘cwsmeriaid rheolaidd’ yn cyfleu’r un ystyr a chywair?
>>
>>
>>
>> Claire
>>
>>
>>
>> *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and
>> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of *Osian
>> Rhys
>> *Sent:* 27 January 2017 12:39
>> *To:* [log in to unmask]
>> *Subject:* frequent flyers
>>
>>
>>
>> Pnawn da gyfeillion
>>
>> Mae'r term yma'n ymwneud â'r gwasanaeth iechyd mae'n debyg! Pobl sy'n
>> gorddefnyddio'r gwasanaeth iechyd, ym marn rhai beth bynnag. Newydd
>> ffeindio diffiniad:
>>
>> *Among health professionals, they're known as "frequent flyers" - the
>> patients who regularly go to hospital with conditions ranging from asthma
>> to arthritis.*
>>
>>
>>
>> Yn amlwg mae'r term yn dod o'r byd hedfan yn wreiddiol, ond dw i ddim yn
>> gwybod oes angen cadw'r cysylltiad hwnnw mewn gwirionedd. A deud y gwir dw
>> i ddim yn siŵr lle i ddechre!
>>
>> Osian
>>
>
>