Pnawn da bawb,
Dwi wedi cael cais gan gydweithiwr i gyfieithu’r ymadrodd ‘Fallen leaves return to their roots’ ar gyfer beddargraff rhywun a oedd wedi symud i ffwrdd ond sy’n cael
ei gladdu gartref.
Dyma ddau gynnig sydd gen i hyd yma:
Daw dail cwympedig/syrthiedig yn ôl i’w gwreiddiau
Dychwel dail cwympedig/syrthiedig i’w gwreiddiau
Unrhyw awgrymiadau neu syniadau gwell?
Diolch yn fawr,
Rhodri