Hanfodion Ffeilio
Amgueddfa Criced Cymru, Stadiwm SWALEC
Mai 20, 2017
Llywodraeth Cymru sy'n darparu'r cwrs hwn, sy'n rhad ac am ddim, ac mae’n cael ei gynnig i staff a gwirfoddolwyr sy'n gweithio yn amgueddfeydd, archifdai a llyfrgelloedd Cymru.
Mae'n addas ar gyfer y rheini:
- Sy’n gweithio gyda chasgliadau amgueddfeydd
- Sy’n paratoi ffurflenni Achredu Amgueddfeydd
- Sy’n creu system ar gyfer dogfennau amgueddfeydd
- Sy’n adolygu system ar gyfer dogfennau amgueddfeydd
- Sy’n gweithio ar waith wrth gefn amgueddfeydd.
Nod
Cyflwyno’r egwyddorion sylfaenol sy’n ymwneud â dogfennau amgueddfeydd. Ystyrir manteision mabwysiadu arferion da wrth gadw dogfennnau a chaiff y rhai a fydd ar y cwrs gyfle i weld cynnwys system syml ond effeithiol o gadw dogfennau. Rhoddir sylw i bwysigrwydd
llunio polisïau’n ymwneud â dogfennaeth, cynllunio ymlaen llaw a chyfathrebu da er mwyn cyflawni dibenion trefniadaethol yr amgueddfa.
Erbyn diwedd y dydd, bydd y rheini sy’n dilyn y cwrs wedi
- Archwilio pwysigrwydd mabwysiadu arferion da wrth gadw dogfennau
- Edrych ar ofynion rheoli casgliadau Cynllun Achredu’r Amgueddfa a’u trafod gan roi pwyslais ar ddogfennaeth
- Edrych ar egwyddorion PAS 197 a SPECTRUM yng nghyd-destun Achredu Amgueddfeydd a’r defnydd a wneir ohonynt a’u trafod
- Ymarfer gweithdrefnau sylfaenol yn ymwneud â dogfennaeth
- Asesu eu systemau eu hunain o gadw dogfennau yng nghyd-destun gofynion Achredu
- Defnyddio adnoddau papur yn ymwneud â dogfennaeth a defnyddio gweithdrefnau’n ymwneud â dogfennau gan ddefnyddio gwrthrychau
- Rhannu a thrafod eu profiadau hwy eu hunain yn ymwneud â dogfennaeth.
Dulliau Hyfforddi: Cyfuniad o gyflwyniadau, DVD, ymarferion ymarferol, trafodaethau anffurfiol a chyfarfodydd un ac un.
Paratoi: nid oes angen paratoi ymlaen llaw
Hyfforddwr: Alex Dawson, ymgynghorydd ar dreftadaeth ddiwylliannol
Cofrestru
Dim ond dau gais y gellir eu derbyn oddi wrth bob sefydliad. Fodd bynnag, rydym yn hapus i roi unrhyw geisiadau eraill ar restr aros rhag ofn na fydd y cwrs yn llawn. Ar ôl ichi gyflwyno eich cais bydd sgrin olaf EventBrite yn dweud ‘Rydych chi’n mynd
i ……” ac efallai y byddwch yn cael e-bost sy’n cadarnhau eich bod wedi cofrestru ar gyfer y cwrs. Mae’n bwysig cofio nad yw’r e-bost hwnnw’n gadarnhad bod lle wedi ei neilltuo ar eich cyfer. Yn hytrach, mae’n cadarnhau bod eich cais wedi ei gyflwyno,
ac ni allwch fod yn sicr o’ch lle nes ichi gael gwahoddiad i’r cwrs oddi wrth CyMAL.
Cewch fynegi eich diddordeb yn y cwrs drwy glicio ar ddolen EventBrite isod.
Datganiad o Ddiddordeb
Cyfyngir ar y nifer a all gofrestru o bob sefydliad i 2 berson yn unig. Fodd bynnag, rydym yn hapus i roi enw unrhyw un arall sy'n dymuno dod ar restr aros y cwrs, a bydd cyfle iddynt ymuno os na fydd y cwrs yn llawn. Unwaith y byddwch wedi cyflwyno'ch
cais, cewch neges awtomatig i gadarnhau bod eich cais wedi dod i law. Dim ond pan gewch chi wahoddiad i'r cwrs oddi wrth MALD y gallwch fod yn sicr o'ch lle.
Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Os bydd eich amgylchiadau’n newid ac na fyddwch yn gallu mynd ar y cwrs wedi'r cyfan, cysylltwch â Meleri Lloyd ar unwaith drwy anfon e-bost at [log in to unmask]
neu ffoniwch 0300 062 2458 er mwyn i rywun arall ar y rhestr aros allu mynd yn eich lle.
Ni fyddwn bellach yn darparu cinio ar gyfer digwyddiadau hyfforddi er mwyn inni allu cynnig amrywiaeth mor eang â phosibl o gyfleoedd hyfforddi. Byddwn yn parhau i gynnig te a choffi wrth ichi gyrraedd ac yn ystod egwyliau. Byddwn
hefyd yn darparu gwybodaeth am y darparwyr bwyd lleol sydd gerllaw lleoliad yr hyfforddiant.
Bydd pob gohebiaeth sy'n ymwneud â'r cwrs hwn yn cael ei hanfon atoch yn electronig ar ôl ichi gofrestru; felly, gofynnwn am gyfeiriad e-bost unigol ar gyfer pob cynrychiolydd.
Documentation Essentials
Museum of Welsh Cricket, SWALEC Stadium
20 May 2017
This free course is provided by the Welsh Government and is open to staff and volunteers working in museums in Wales.
It is suitable for anyone who is:
- Working with museum collections
- Preparing an Museum Accreditation return
- Setting up a museum documentation system
- Reviewing a museum documentation system
- Working on museum backlogs
Aim:
To provide an introduction to the basic principles of museum documentation. Consideration is given to the benefits of good documentation practice, and participants will examine the content of a simple but effective documentation system. Attention is paid
to the importance of documentation policies, forward planning and good communication to deliver the museum’s organisational purpose.
By the end of the course participants will have:
- Explored the importance of good documentation practice
- Examined and discussed the collections management requirements of the Museum Accreditation Scheme, with an emphasis on documentation
- Examined and discussed the principles and use of PAS 197, and SPECTRUM in the context of Museum Accreditation
- Practised basic documentation procedures
- Assessed their own documentation systems in the context of Accreditation requirements
- Used paper based documentation resources and applied documentation procedures using objects
- Shared and discussed their own documentation experience
Training Methods: A mix of presentations, DVD, practical exercises, informal discussion and one to one consultancy
Preparation : no preparation is required
Trainer: Alex Dawson, cultural heritage consultant
Expression of interest
Requests are limited to 2 per organisation however we are happy to waitlist any others in the event the course is not fully subscribed. Once you have submitted your request your will receive an automatically generated message to confirm that your request
has been received. Please note your place is not guaranteed until you receive an invitation to the course from MALD.
Spaces are limited. If your circumstances subsequently change and you can no longer attend notify Meleri Lloyd immediately on [log in to unmask]
or 0300 062 2458 so your place can be awarded to someone on the waitlist.
In order to maintain as wide a range of training opportunities as possible MALD will no longer provide lunch for training events. We will continue to provide tea and coffee on arrival and during breaks. We will also provide information
on available food providers located conveniently near the venue.
All correspondence relating to this course will be sent out electronically once you have registered; therefore you must supply an individual email address for each delegate.
Seaneen McGrogan
Swyddog Casgliadau, Safonau a hyfforddiant
Collections, Standards and Training Officer
Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd.
Museums, Archives and Libraries Division
Department for Economy, Science and Transport
Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
Llywodraeth Cymru / Welsh Government
Rhodfa Padarn, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UR
0300 062 2261