Finne hefyd yn tueddu i beidio ar ôl dysgu peidio fel cyw-gyfieithydd. Ond ar lafar "mae'n hadroddiad ni" ddwedwn i, a dweud y gwir mae dweud "mae ein hadroddiad" yn annaturiol, yn anodd hyd yn oed. Tybed ai mater o arferiad sy'n arwain rhywun i feddwl bod "mae'n hadroddiad" yn aneglur? Os mai dyna mae pobl yn ddweud! Dw i'n beio William Salesbury. Osian Ar 11 Tachwedd 2016 am 09:55, Carolyn Iorwerth < [log in to unmask]> ysgrifennodd: > A finna – tueddu i beidio â thalfyrru ein ar ôl ‘mae’. > > > > *Oddi wrth:* Discussion of Welsh language technical terminology and > vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *Ar ran/On Behalf > Of *Rhian Huws > *Anfonwyd:* Dydd Iau, 10 Tachwedd 2016 16:50 > *At:* [log in to unmask] > *Pwnc:* Re: Rheol gramadeg - y collnod a thalfyrru > > > > A finna hefyd. > > Rhian > > > > > > *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary > [mailto:[log in to unmask] > <[log in to unmask]>] *On Behalf Of *Geraint Lovgreen > *Sent:* 10 November 2016 15:06 > *To:* [log in to unmask] > *Subject:* Re: Rheol gramadeg - y collnod a thalfyrru > > > > Faswn i'n rhoi "Mae ein" yn yr enghraifft yna, er mwyn eglurder. > > On 10/11/2016 15:00, Abby Harrison wrote: > > Pnawn da, > > > > Beth sy'n gywir / fwy naturiol / cael ei ddefnyddio'n eang? > > > > Mae ein hadroddiad blynyddol yn dangos ... > > Mae'n hadroddiad blynyddol yn dangos ... > > > > Mae rhai pobl yn meddwl bod *mae'n* yn golygu *mae + yn*, a dydyn ni ddim > eisiau drysu'r darllenydd. Ond yn ôl Gramadeg y Gymraeg gan Peter Wynn > Thomas, mae'r rhagenw blaen *ein,* a hefyd *yn traethiadol a berfenwol,* > yn cael ei dalfyrru i *'n *ar ôl llafariad. > > > > Diolch i chi am unrhyw help / sylwadau. > > > > Abby > > > > The information in this e-mail and any attachments is confidential and may > be subject to legal professional privilege. Unless you are the intended > recipient or his/her representative you are not authorised to, and must > not, read, copy, distribute, use or retain this message or any part of it. > If you are not the intended recipient, please notify the sender immediately. > > > > HM Revenue & Customs computer systems will be monitored and communications > carried on them recorded, to secure the effective operation of the system > and for lawful purposes. > > > > The Commissioners for HM Revenue and Customs are not liable for any > personal views of the sender. > > > > This e-mail may have been intercepted and its information altered. > > >