Mae’r rhain yn broblem yn gyffredinol a defnyddio ansoddeiriau’n gorffen efo ‘aidd’ ac ‘ig’ wedi mynd yn arfer er eu bod yn aml yn chwithig iawn. Mae’r disgrifiadau sy’n cynnwys dwy elfen yn fwy o broblem eto e.e. Black Asian ac fe drafodwyd hyn ychydig yn ôl yn y cylch. Ai Asiaid Duon yw’r diffiniad ynteu Pobl Dduon Asiaidd? Mae gwir angen cael rhestr swyddogol sydd wedi’i chreu gan rywun sy’n deall y cysyniadau’n iawn ond sydd hefyd yn deall sut mae’r Gymraeg yn gweithio. Dw i ddim yn meddwl bod ‘O’r Dwyrain Canol’ yn fanwl gywir, oherwydd does dim rhaid i rywun fod yn dod o’r dwyrain canol nac oes, dim ond ei fod o dras sydd â’i wreiddiau yn y rhan honno o’r byd? Neu ydw i’n cymhlethu pethau? Carolyn Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Beryl Griffiths Anfonwyd: Dydd Iau, 10 Tachwedd 2016 11:31 At: [log in to unmask] Pwnc: Re: Near Eastern Ond Cymraes ydw i, a fanno mae’r broblem! Ond na, o ddifri – onid disgrifio’r ‘tarddiad ethnig’ mae’r gosodiad bob tro? Beryl From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Osian Rhys Sent: 10 November 2016 11:19 To: [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]> Subject: Re: Near Eastern Cytuno gyda Siân. Dw i'n siŵr i ni drafod hyn o'r blaen, i fi mae'r rhain yn fwy cyffredinol yn broblematig. Ydy rhywun yn "Fangladeshaidd"? Ydw i'n "Gymreig"? Nadw, dw i ddim yn meddwl, Cymro ydw i. Osian Ar 9 Tachwedd 2016 am 12:19, Sian Roberts <[log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]> > ysgrifennodd: Mae “Dwyrain Canolaidd” yn swnio’n chwithig i mi. Yr unig enghraifft alla i ei gweld ar y we yw Cyfrifiad 2011 - "Gogledd Affricanaidd neu Ddwyrain Canolaidd,”. Dw i ddim yn siŵr ydi hynny’n rhoi rhyw statws iddo. Mae’r enghreifftiau eraill y mae Gwgl yn dod o hyd iddynt yn tueddu i ddefnyddio “yn y Dwyrain Canol” neu “o’r Dwyrain Canol” etc. Fyddai “O’r Dwyrain Canol/Agos” yn gweithio? Neu ddim ond “Dwyrain Canol/Agos”? Siân On 9 Nov 2016, at 11:57, Sion Rees Williams <[log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]> > wrote: Beth fyddech chi'n ddweud am "Near Eastern" fel grŵp ethnig? Mae gen i "Dwyrain Canolaidd" eisoes am "Middle Eastern". Diolch o flaen llaw. Siôn Y Bnr/Mr/M Siôn Rees WILLIAMS MA (Celtic Studies), LLB. (Hons.), Cert. TESOL, MCIL. (Siôn o Ewrop) Cyfreithiwr trwy hyfforddiant, Ieithydd wrth alwedigaeth Lawyer by training, Linguist by profession Notaire de formation, Linguiste de profession Llysgenhadaeth Ddiwylliannol Cymru/Welsh Cultural Embassy/Ambassade Culturelle du Pays de Galles 62 Northview Road DUNSTABLE Bedfordshire LU5 5HB Lloegr/England/Angleterre Tel: + 44 (0)1582 476 288 Web: http://uk.linkedin.com/in/sionrwilliams Call Send SMS Call from mobile Add to Skype You'll need Skype Credit