Print

Print


Cafwyd trafodaeth yn 2000 a 2002 ond dim ateb hyd y gwela i. Mae yna 260+ enghraifft o "ddesg/desgiau poeth" ar y we, ond wn i ddim os ydi o wedi ennill ei blwy... braidd yn llythrennol? Mae dy esboniad di yn swnio'n well na chyfieithiad llythrennol ond falla bod "desgiau cyntaf i'r felin" braidd yn hir??

Sioned


On 24 Nov 2016, at 13:33, Einir Williams wrote:

> Helo.
> Oes gan unrhyw un syniad am gyfieithiad i'r term 'hot desk'? Desg sydd ar gael ar sail cyntaf i'r felin mewn swyddfa ydi hi.
> 
> Diolch ymlaen llaw am unrhyw gymorth
> Einir