Print

Print


Beth am hon, Eurwyn:

 

Myfi yw y Goeden Nadolig

Yn sefyll ym mharlwr eich ty,

Fy mrigau sy’n wyrdd ac yn llwythog,

Brenhines y goedwig wyf i.

 

Dowch yma i weld yr anrhegion

A’r golau pob lliw sydd mewn rhes,

Papurau o aur ac o arian

A seren ddisgleiria’n y gwres.

 

Ac yna, ar ōl y Nadolig

A phobman yn edrych yn oer,

Fe’m rhoddir fi allan i bydru

Yng ngwaelod yr ardd dan y lloer.

 

(Mi gofiais fod y plant arfer ei chanu yn Steddfod y Foel ers talwm!)

 

Mary

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Eurwyn Pierce Jones
Sent: 23 November 2016 12:06
To: [log in to unmask]
Subject: Cān Coeden Nadolig

 

Coeden Nadolig:    Mae pwyllgor Canolfan Gymunedol leol wedi gofyn i mi am bennill (/ benillion) - boed yn ganadwy neu ddim - i'w gosod wrth ochr coeden Nadolig enfawr sy'n cael ei haddurno yn eu neuadd ar gyfer digwyddiadau Nadoligaidd a fydd yn cael eu cynnal yno dros yr wythnosau nesaf yma.  Y syniad yw cael hyd at ryw dri phennill efallai o gerdd (neu gallai un pennill fod yn ddigon), o garol neu o gān (cān werin/ cān bop / boblogaidd) Gymraeg, ar thema wedi ei seilio ar Goeden Nadolig, wedi eu printio ar gardfwrdd A1 (maint siart neu boster).

 

Bydd yno fersiwn o'r 'garol' nadoligaidd Almaenaidd boblogaidd:

 

Oh, Tannenbaum! Oh, Tannenbaum!
Wie treu sind deine Blätter.

 

ynghyd ā'r fersiwn Saesneg ohoni:

 

O, Christmas tree!  O, Christmas tree!

Thy leaves are so unchanging.

 

Does dim rhaid i'r cyfraniad Cymraeg gydymffurfio ā'r uchod, mewn gwirionedd, o ran naws na phatrwm na dim arall.

 

Hyd yn hyn dydw i ddim wedi medru meddwl am ddim byd addas sydd eisoes ar gael.  All rywun helpu, plīs?  Os na ddaw dim i'r fei, yna  fydd dim amdani ond rhoi cynnig ar gyfieithu'r garol Almaenaidd i'r Gymraeg.

 

 

Eurwyn.