Coeden Nadolig: Mae pwyllgor Canolfan Gymunedol leol wedi gofyn i mi
am bennill (/ benillion) - boed yn ganadwy neu ddim - i'w gosod wrth ochr
coeden Nadolig enfawr sy'n cael ei haddurno yn eu neuadd ar gyfer digwyddiadau
Nadoligaidd a fydd yn cael eu cynnal yno dros yr wythnosau nesaf yma. Y syniad
yw cael hyd at ryw dri phennill efallai o gerdd (neu gallai un pennill fod yn
ddigon), o garol neu o gān (cān werin/ cān bop / boblogaidd) Gymraeg, ar thema
wedi ei seilio ar Goeden Nadolig, wedi eu printio ar gardfwrdd A1 (maint siart
neu boster).
Bydd yno fersiwn o'r 'garol'
nadoligaidd Almaenaidd boblogaidd:
Oh, Tannenbaum! Oh, Tannenbaum!
Wie treu sind deine Blätter.
ynghyd ā'r fersiwn Saesneg ohoni:
O, Christmas tree! O, Christmas
tree!
Thy leaves are so unchanging.
Does dim rhaid i'r cyfraniad
Cymraeg gydymffurfio ā'r uchod, mewn gwirionedd, o ran naws na phatrwm na dim
arall.
Hyd yn hyn dydw i ddim wedi medru
meddwl am ddim byd addas sydd eisoes ar gael. All rywun helpu, plīs? Os na
ddaw dim i'r fei, yna fydd dim amdani ond rhoi cynnig ar gyfieithu'r garol
Almaenaidd i'r Gymraeg.
Eurwyn.