Print

Print


Coeden Nadolig:    Mae pwyllgor Canolfan Gymunedol leol wedi gofyn i mi am
bennill (/ benillion) - boed yn ganadwy neu ddim - i'w gosod wrth ochr
coeden Nadolig enfawr sy'n cael ei haddurno yn eu neuadd ar gyfer
digwyddiadau Nadoligaidd a fydd yn cael eu cynnal yno dros yr wythnosau
nesaf yma.  Y syniad yw cael hyd at ryw dri phennill efallai o gerdd (neu
gallai un pennill fod yn ddigon), o garol neu o gān (cān werin/ cān bop /
boblogaidd) Gymraeg, ar thema wedi ei seilio ar Goeden Nadolig, wedi eu
printio ar gardfwrdd A1 (maint siart neu boster).

 

Bydd yno fersiwn o'r 'garol' nadoligaidd Almaenaidd boblogaidd:

 

Oh, Tannenbaum! Oh, Tannenbaum!
Wie treu sind deine Blätter.

 

ynghyd ā'r fersiwn Saesneg ohoni:

 

O, Christmas tree!  O, Christmas tree!

Thy leaves are so unchanging.

 

Does dim rhaid i'r cyfraniad Cymraeg gydymffurfio ā'r uchod, mewn
gwirionedd, o ran naws na phatrwm na dim arall.

 

Hyd yn hyn dydw i ddim wedi medru meddwl am ddim byd addas sydd eisoes ar
gael.  All rywun helpu, plīs?  Os na ddaw dim i'r fei, yna  fydd dim amdani
ond rhoi cynnig ar gyfieithu'r garol Almaenaidd i'r Gymraeg.

 

 

Eurwyn.