Neu ‘bygythiwyd’? Carolyn Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Rhian Huws Anfonwyd: Dydd Mercher, 23 Tachwedd 2016 10:37 At: [log in to unmask] Pwnc: Re: Compromised Pwynt digon teg Geraint, a dyna fyddwn i’n ei wneud mewn sefylfa arferol. Fodd bynnag, rhan o gronfa ddata ar-lein o derminoleg yw hon sy’n golygu bod angen i mi weithio’n uniongyrchol ar system y cleient (ar-lein). Mae’n gymhelth i egluro heb weld y peth, ond mae’n rhaid rhoi rhywbeth ym mhob bocs i gyfateb â’r Saesneg. Beryg y bydd rhaid i mi roi rhywbeth fel “Ymyrrwyd â” neu ‘Torrwyd i mewn i’ fel yr awgrymodd Siân isod. Diolch eto Rhian From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen Sent: 23 November 2016 10:21 To: [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]> Subject: Re: Compromised Ond os creu rhestr eirfa, a bod y gair ddim yn digwydd yn y Gymraeg, hepgor y gair yn gyfan gwbl o'r rhestr Gymraeg ydi'r peth i'w wneud, siawns? Geraint On 23/11/2016 09:39, Rhian Huws wrote: Diolch yn fawr Sian. Yn anffodus mae’n rhaid i mi gael term sy’n sefyll ar ei ben ei hun. Rhyw fath o restr geirfa sydd gen i fel a ganlyn: ‘Compromised – to break into without authorisation e.g. my email account has been compromised’. Diolch a chofion Rhian From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts Sent: 23 November 2016 09:24 To: [log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]> Subject: Re: Compromised “Mae rhywun wedi torri i mewn i fy nghyfrif ebost” “Mae rhywun wedi amharu ar fy nghyfrif ebost” “Mae rhywun wedi ymyrryd â fy nghyfrif ebost” “Torrwyd i mewn i…” “Amharwyd ar…” “Ymyrrwyd â…” ? Mae’n well gen i’r ffurfiau â “rhywun” Siân On 23 Nov 2016, at 08:38, Rhian Huws <[log in to unmask] <mailto:[log in to unmask]> > wrote: Bore Da Oes rhywun wedi dod ar draws yr uchod yng nghyd-destun cyfrifon e-bost ac ati? E.e. ‘my email account has been compromised’. ‘Mewn perygl’ neu ‘dan fygythiad’ sydd yng Ngeiriadur yr Academi ond y diffiniad yw ‘to break into without authorisation’. Diolch ymlaen llaw Rhian