Fyddai ‘peryglwyd’ yn gallu gweithio? O leiaf mae’n osgoi gorfod defnyddio arddodiad.
Carolyn
Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Rhian Huws
Anfonwyd: Dydd Mercher, 23 Tachwedd 2016 10:37
At: [log in to unmask]
Pwnc: Re: Compromised
Pwynt digon teg Geraint, a dyna fyddwn i’n ei wneud mewn sefylfa arferol.
Fodd bynnag, rhan o gronfa ddata ar-lein o derminoleg yw hon sy’n golygu bod angen i mi weithio’n uniongyrchol ar system y cleient (ar-lein). Mae’n gymhelth i egluro heb weld y peth, ond mae’n rhaid rhoi rhywbeth ym mhob bocs i gyfateb â’r Saesneg. Beryg y bydd rhaid i mi roi rhywbeth fel “Ymyrrwyd â” neu ‘Torrwyd i mewn i’ fel yr awgrymodd Siân isod.
Diolch eto
Rhian
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 23 November 2016 10:21
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Compromised
Ond os creu rhestr eirfa, a bod y gair ddim yn digwydd yn y Gymraeg, hepgor y gair yn gyfan gwbl o'r rhestr Gymraeg ydi'r peth i'w wneud, siawns?
Geraint
On 23/11/2016 09:39, Rhian Huws wrote:
Diolch yn fawr Sian.
Yn anffodus mae’n rhaid i mi gael term sy’n sefyll ar ei ben ei hun. Rhyw fath o restr geirfa sydd gen i fel a ganlyn:
‘Compromised – to break into without authorisation e.g. my email account has been compromised’.
Diolch a chofion
Rhian
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 23 November 2016 09:24
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Compromised
“Mae rhywun wedi torri i mewn i fy nghyfrif ebost”
“Mae rhywun wedi amharu ar fy nghyfrif ebost”
“Mae rhywun wedi ymyrryd â fy nghyfrif ebost”
“Torrwyd i mewn i…”
“Amharwyd ar…”
“Ymyrrwyd â…” ?
Mae’n well gen i’r ffurfiau â “rhywun”
Siân
On 23 Nov 2016, at 08:38, Rhian Huws <[log in to unmask]> wrote:
Bore Da
Oes rhywun wedi dod ar draws yr uchod yng nghyd-destun cyfrifon e-bost ac ati? E.e. ‘my email account has been compromised’.
‘Mewn perygl’ neu ‘dan fygythiad’ sydd yng Ngeiriadur yr Academi ond y diffiniad yw ‘to break into without authorisation’.
Diolch ymlaen llaw
Rhian