Diolch yn fawr Siân – credu y byddai’r naill neu’r llall yn gweithio. Mi holai’r cwsmer i weld beth sydd fwyaf addas. From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts Sent: 23 November 2016 10:38 To: [log in to unmask] Subject: Re: Compromised Dydi’r Saesneg ddim yn gwneud synnwyr - “Compromised - to break into …” Fyddai: “Ymyrryd - torri i mewn heb ganiatâd …” yn gweithio? Neu, os mai “torri i mewn” yw’r ystyr bob tro yn y cyd-destun hwn fel mae’r Saesneg yn awgrymu, “Torri i mewn - cael mynediad heb ganiatâd…” Siân On 23 Nov 2016, at 09:39, Rhian Huws <[log in to unmask]> wrote: Diolch yn fawr Sian. Yn anffodus mae’n rhaid i mi gael term sy’n sefyll ar ei ben ei hun. Rhyw fath o restr geirfa sydd gen i fel a ganlyn: ‘Compromised – to break into without authorisation e.g. my email account has been compromised’. Diolch a chofion Rhian From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts Sent: 23 November 2016 09:24 To: [log in to unmask] Subject: Re: Compromised “Mae rhywun wedi torri i mewn i fy nghyfrif ebost” “Mae rhywun wedi amharu ar fy nghyfrif ebost” “Mae rhywun wedi ymyrryd â fy nghyfrif ebost” “Torrwyd i mewn i…” “Amharwyd ar…” “Ymyrrwyd â…” ? Mae’n well gen i’r ffurfiau â “rhywun” Siân On 23 Nov 2016, at 08:38, Rhian Huws < <mailto:[log in to unmask]> [log in to unmask]> wrote: Bore Da Oes rhywun wedi dod ar draws yr uchod yng nghyd-destun cyfrifon e-bost ac ati? E.e. ‘my email account has been compromised’. ‘Mewn perygl’ neu ‘dan fygythiad’ sydd yng Ngeiriadur yr Academi ond y diffiniad yw ‘to break into without authorisation’. Diolch ymlaen llaw Rhian