Tanseiliwyd?

Ar 23 Tachwedd 2016 am 10:29, Cyfri Dot <[log in to unmask]> ysgrifennodd:
Ydy'r rhestr yn cyferio nôl at erthygl neu destun arall? Os felly dylid defnyddio'r term/ymadrodd sy'n cael ei ddefnyddio yno. Dwi ddim yn meddwl ei bod hi'n bosib cyfieithu hwn efo un gair yn unig.  Dwi'n hoffi cynnig Siân 'amharu ar'. 

Catrin 

Anfonwyd ar fy ffôn iDot

On 23 Tach 2016, at 09:39, Rhian Huws <[log in to unmask]> wrote:

Diolch yn fawr Sian.

 

Yn anffodus mae’n rhaid i mi gael term sy’n sefyll ar ei ben ei hun.  Rhyw fath o restr geirfa sydd gen i fel a ganlyn:

 

‘Compromised – to break into without authorisation e.g. my email account has been compromised’.

 

Diolch a chofion

Rhian

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:WELSH-TERMAU-CYMRAEG@JISCMAIL.AC.UK] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 23 November 2016 09:24
To: [log in to unmask]AC.UK
Subject: Re: Compromised

 

“Mae rhywun wedi torri i mewn i fy nghyfrif ebost”

“Mae rhywun wedi amharu ar fy nghyfrif ebost”

“Mae rhywun wedi ymyrryd â fy nghyfrif ebost” 

“Torrwyd i mewn i…”

“Amharwyd ar…”

“Ymyrrwyd â…”  ?

 

Mae’n well gen i’r ffurfiau â “rhywun”

 

Siân

 

On 23 Nov 2016, at 08:38, Rhian Huws <[log in to unmask]> wrote:

 

 

Bore Da

Oes rhywun wedi dod ar draws yr uchod yng nghyd-destun cyfrifon e-bost ac ati? E.e. ‘my email account has been compromised’.

 

‘Mewn perygl’ neu ‘dan fygythiad’ sydd yng Ngeiriadur yr Academi ond y diffiniad yw ‘to break into without authorisation’.

 

Diolch ymlaen llaw

Rhian