Print

Print


Dwi'n eitha hoff o 'dyheadau oes' achos dyna'n union ydyn nhw - pethau penodol rydych chi'n dyheu am eu gwneud ond mi allwch chi eu gwneud nhw rhyw ben yn ystod eich oes, pan fydd y cyfle'n codi.  Mae o hefyd yn fynegiant mwy Cymreig na 'rhestr fwced'; dwi'n rhyw amau y basai'r rhai fasai'n gyfforddus yn dweud 'rhestr fwced' yn fwy cyfforddus fyth yn dweud 'bucket list'.

2016-11-22 13:10 GMT+00:00 Claire Richards <[log in to unmask]>:
'Cicio'r bwced' yw'r cofnod cyntaf yn GyrA o dan "kick the bucket".

Claire

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:WELSH-TERMAU-CYMRAEG@JISCMAIL.AC.UK] On Behalf Of Carolyn Iorwerth
Sent: 22 November 2016 13:09
To: [log in to unmask]AC.UK
Subject: ATB/RE: Bucket List

OS felly, oes 'na rywbeth o'i le ar 'Restr Fwced'? Mae pobl yn deud 'cicio'r bwced' yn Gymraeg tydyn?

-----Neges Wreiddiol/Original Message----- Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:WELSH-TERMAU-CYMRAEG@JISCMAIL.AC.UK] Ar ran/On Behalf Of Beryl Griffiths
Anfonwyd: Dydd Mawrth, 22 Tachwedd 2016 12:46
At: [log in to unmask]AC.UK
Pwnc: Re: Bucket List

Cytuno Siân, ond yn methu dod o hyd i ddim byd gwell chwaith!

Beryl

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:WELSH-TERMAU-CYMRAEG@JISCMAIL.AC.UK] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 22 November 2016 12:37
To: [log in to unmask]AC.UK
Subject: Re: Bucket List

Ydi "rhestr ddyheadau" yn swnio braidd yn uchel-ael?
Os oes modd, mae'n well cael termau y bydd pobl yn eu gweld ac yn teimlo'n gyfforddus yn eu defnyddio am bethau bob-dydd fel hyn.

Siân