Ia, mae 'bod yn braf wrth rywun' yn ddiarth i mi hefyd.  I mi, teimlad neu sefyllfa sy'n braf, neu rywbeth sy'n fawr mewn modd pleserus.
 
Mi fasa'r gair 'clên' yn gweithio yn y Gogledd, debyg, ond, o bosib, yn dda i ddim yn y de.



2016-11-15 13:13 GMT+00:00 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>:
Dwi'n gweld yn iawn beth sy'n bod ar 'braf' - mi fedrech gael Nadolig braf heb fod yn garedig nac yn neis wrth neb.


On 15/11/2016 12:35, Sian Roberts wrote:
Dw innau ddim yn gweld beth sy’n bod ar “braf”.
Ond os ydyn nhw’n mynnu cael “caredig”, beth am “Pawb yn ddiogel a charedig”?

Siân



On 15 Nov 2016, at 12:27, Carolyn Iorwerth <[log in to unmask]OM> wrote:

Dw i ddim yn meddwl bod yr arddodiad 'i' yn iawn ar ôl 'caredig'.  Dw i ddim yn gweld be oedd o'i le ar Diogel a Braf chwaith.

-----Neges Wreiddiol/Original Message-----
Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:WELSH-TERMAU-CYMRAEG@JISCMAIL.AC.UK] Ar ran/On Behalf Of Meinir Thomas
Anfonwyd: Dydd Mawrth, 15 Tachwedd 2016 11:37
At: [log in to unmask]AC.UK
Pwnc: Re: Safe and Nice To All

Mae 'Diogel a Charedig i Bawb' yn teimlo fel bod 'diogel' yn mynd gyda 'pawb', fel petaech chi'n dweud 'diogel tuag at bawb'. Byddai coma'n helpu falle? 'Diogel, a Charedig i Bawb'? Neu newid y slogan i 'Aros yn Ddiogel, Caredig i Bawb'? Dolig Diogel, Dolig Caredig? Mae'r ffaith bod Diogel a Braf i Bawb wedi'i hen sefydlu yn fy mhoeni i hefyd.

Meinir