Ia, mae 'bod yn braf wrth rywun' yn ddiarth i mi hefyd. I mi, teimlad neu sefyllfa sy'n braf, neu rywbeth sy'n fawr mewn modd pleserus. Mi fasa'r gair 'clên' yn gweithio yn y Gogledd, debyg, ond, o bosib, yn dda i ddim yn y de. 2016-11-15 13:13 GMT+00:00 Geraint Lovgreen <[log in to unmask] >: > Dwi'n gweld yn iawn beth sy'n bod ar 'braf' - mi fedrech gael Nadolig braf > heb fod yn garedig nac yn neis wrth neb. > > > On 15/11/2016 12:35, Sian Roberts wrote: > >> Dw innau ddim yn gweld beth sy’n bod ar “braf”. >> Ond os ydyn nhw’n mynnu cael “caredig”, beth am “Pawb yn ddiogel a >> charedig”? >> >> Siân >> >> >> >> On 15 Nov 2016, at 12:27, Carolyn Iorwerth <[log in to unmask] >>> OM> wrote: >>> >>> Dw i ddim yn meddwl bod yr arddodiad 'i' yn iawn ar ôl 'caredig'. Dw i >>> ddim yn gweld be oedd o'i le ar Diogel a Braf chwaith. >>> >>> -----Neges Wreiddiol/Original Message----- >>> Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and >>> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On >>> Behalf Of Meinir Thomas >>> Anfonwyd: Dydd Mawrth, 15 Tachwedd 2016 11:37 >>> At: [log in to unmask] >>> Pwnc: Re: Safe and Nice To All >>> >>> Mae 'Diogel a Charedig i Bawb' yn teimlo fel bod 'diogel' yn mynd gyda >>> 'pawb', fel petaech chi'n dweud 'diogel tuag at bawb'. Byddai coma'n helpu >>> falle? 'Diogel, a Charedig i Bawb'? Neu newid y slogan i 'Aros yn Ddiogel, >>> Caredig i Bawb'? Dolig Diogel, Dolig Caredig? Mae'r ffaith bod Diogel a >>> Braf i Bawb wedi'i hen sefydlu yn fy mhoeni i hefyd. >>> >>> Meinir >>> >>