Print

Print


Mae hyn i gyd yn wir ei wala. Yn anffodus, hyd y gwelaf i nid oes rhestr gynhwysfawr swyddogol i’w chael. Ar ben hynny, daw’n boenus o amlwg nad yw pob un o’r rheiny sy’n llunio’r rhestrau hyn yn deal y cysyniadau perthnasol. Bydd angen trafodaeth drylwyr ryw ben – gorau po gyntaf.

 

Yn iach,

 

Tim

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Carolyn Iorwerth
Sent: 10 November 2016 11:41
To: [log in to unmask]
Subject: ATB/RE: Near Eastern

 

Mae’r rhain yn broblem yn gyffredinol a defnyddio ansoddeiriau’n gorffen efo ‘aidd’ ac ‘ig’ wedi mynd yn arfer er eu bod yn aml yn chwithig iawn. Mae’r disgrifiadau sy’n cynnwys dwy elfen yn fwy o broblem eto e.e. Black Asian ac fe drafodwyd hyn ychydig yn ôl yn y cylch. Ai Asiaid Duon yw’r diffiniad ynteu Pobl Dduon Asiaidd? Mae gwir angen cael rhestr swyddogol sydd wedi’i chreu gan rywun sy’n deall y cysyniadau’n iawn ond sydd hefyd yn deall sut mae’r Gymraeg yn gweithio.  Dw i ddim yn meddwl bod ‘O’r Dwyrain Canol’ yn fanwl gywir, oherwydd does dim rhaid i rywun fod yn dod o’r dwyrain canol nac oes, dim ond ei fod o dras sydd â’i wreiddiau yn y rhan honno o’r byd?  Neu ydw i’n cymhlethu pethau?

Carolyn

 

Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Beryl Griffiths
Anfonwyd: Dydd Iau, 10 Tachwedd 2016 11:31
At: [log in to unmask]
Pwnc: Re: Near Eastern

 

Ond Cymraes ydw i, a fanno mae’r broblem!  Ond na, o ddifri – onid disgrifio’r ‘tarddiad ethnig’ mae’r gosodiad bob tro?

 

Beryl

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Osian Rhys
Sent: 10 November 2016 11:19
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Near Eastern

 

Cytuno gyda Siân.

Dw i'n siŵr i ni drafod hyn o'r blaen, i fi mae'r rhain yn fwy cyffredinol yn broblematig. Ydy rhywun yn "Fangladeshaidd"? Ydw i'n "Gymreig"? Nadw, dw i ddim yn meddwl, Cymro ydw i.

Osian



Ar 9 Tachwedd 2016 am 12:19, Sian Roberts <[log in to unmask]> ysgrifennodd:

Mae “Dwyrain Canolaidd” yn swnio’n chwithig i mi.  Yr unig enghraifft alla i ei gweld ar y we yw Cyfrifiad 2011 - "Gogledd Affricanaidd neu Ddwyrain Canolaidd,”.  Dw i ddim yn siŵr ydi hynny’n rhoi rhyw statws iddo.

Mae’r enghreifftiau eraill y mae Gwgl yn dod o hyd iddynt yn tueddu i ddefnyddio “yn y Dwyrain Canol” neu “o’r Dwyrain Canol” etc.

 

Fyddai “O’r Dwyrain Canol/Agos” yn gweithio? Neu ddim ond “Dwyrain Canol/Agos”?

 

Siân

 

 

On 9 Nov 2016, at 11:57, Sion Rees Williams <[log in to unmask]> wrote:

 

Beth fyddech chi'n ddweud am "Near Eastern" fel grŵp ethnig? Mae gen i "Dwyrain Canolaidd" eisoes am "Middle Eastern". 


Diolch o flaen llaw.

 

Siôn

 

Y Bnr/Mr/M Siôn Rees WILLIAMS  MA (Celtic Studies), LLB. (Hons.), Cert. TESOL, MCIL.

(Siôn o Ewrop)


Cyfreithiwr trwy hyfforddiant, Ieithydd wrth alwedigaeth

Lawyer by training, Linguist by profession

Notaire de formation, Linguiste de profession


Llysgenhadaeth Ddiwylliannol Cymru/Welsh Cultural Embassy/Ambassade Culturelle du Pays de Galles
62 Northview Road

DUNSTABLE

Bedfordshire

LU5 5HB

Lloegr/England/Angleterre

Tel: + 44 (0)1582 476 288

Web: http://uk.linkedin.com/in/sionrwilliams

Call

Send SMS

Call from mobile

Add to Skype

You'll need Skype Credit

 

 



Mae'r neges ar gyfer y person / pobl enwedig yn unig. Gall gynnwys gwybodaeth bersonol, sensitif neu gyfrinachol. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi’r awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopïo neu’i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych chi wedi derbyn y neges ar gam, rhowch wybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae'n bosibl y bydd holl negeseuon, gan gynnwys negeseuon GCSX, yn cael eu cofnodi a/neu fonitro unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol. I ddarllen yr ymwadiad llawn, ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/CY/Help/TermsOfUse.aspx

This transmission is intended for the named addressee(s) only and may contain personal, sensitive or confidential material and should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer