Dwi mond isho tynnu sylw at y ffaith fod ‘Youtiwbyddion’ yn bach o lond ceg.

A hefyd, ma na lot o dermau (fel gofalwr/gofalwyr) sy ddim yn ddi-ryw yn dechnegol ond yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y ddau ryw.

Lewys

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 23 November 2016 10:27
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Youtuber

Oni ddylid cael terfyniad di-ryw, felly - Youtube-ydd yn hytrach na Youtube-wr.

Youtiwbydd?

Mae'n debyg mai ei adael fel "Youtuber" fyddai'r ateb gorau. Mae brawddeg Rhian dwi ddim yn dilyn llawer o Youtubers yn reit ddealladwy.

Geraint

On 23/11/2016 10:14, Rhian Huws wrote:

Diolch yn fawr Lewys am daflu goleuni ar hyn ac am yr awgrymiadau defnyddiol. Fel rwyt ti siwr o fod wedi casglu, dwi ddim yn dilyn llawer o Youtubers!

Wn i ddim beth fyddai’r sillafiad mwyaf priodol yma. Gan y bydd yn derm anghyfarwydd yn y Gymraeg, rwy’n credu bod yr hyphen yn ei gwneud yr ystyr yn gliriach. Beth yw barn pobl eraill?

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Lewys Rhys (ABM ULHB - Corporate Services)
Sent: 23 November 2016 09:55
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Youtuber

Bore da

Er gwybodaeth, nid yw pob ‘Youtuber’ yn creu ‘vlogs’. Dyna oedd y sefyllfa tua 2008, ond nawr mae yna bob math o fideos gwahanol yn cael eu creu yn broffesiynol ar gyfer Youtube, gan gynnwys fideos tiwtorial (sut i dynnu lluniau, sut i roi colur arno, sut i drwsio cadair ddesg ayb), fideos sy’n trafod helyntion y dydd, fideos sy’n beirniadu ffilmiau a sioeon teledu a gemau fideo, sianeli hiwmor a sianeli sy mond yn chwarae gemau fideo, sianeli sy’n creu cyfresi ‘teledu’ eu hunain, a llawer mwy dwi’n siwr.

Yr unig beth sy’n unoli’r holl bobl wahanol yma o dan y term ‘Youtuber’ yw eu bod nhw’n defnyddio Youtube i roi eu cynnyrch ar y we ac i ennill eu bywoliaeth drwy’r hysbysebion ar y safle. Rhaid nodi hefyd bod y term ‘Youtuber’ ac nid efallai ‘sianeli Youtube’ wedi ymddangos oherwydd fod y rhai mwyaf llwyddiannus yn llwyddiannus oherwydd fod eu personoliaeth yn denu gwylwyr, ac felly yn fwy o ffactor na sgil neu ansawdd eu gwaith, lot o’r amser.

Byswn i ddim yn dweud fod pob Youtuber yn seren chwaith. Mae’r rhan fwyaf ohonynt yn ‘enwog’ ond ar y we, ac ond o fewn cylchoedd arbennig, ac nid yw’r rhan fwyaf ohonynt yn enwog o gwbl.

Byswn i’n defnyddio ‘Youtubewr’ a ‘Youtubewyr’ neu rwbeth tebyg (Youtwbwr/Youtubwyr?) (Youtube-ŵr/Youtube-wyr?) (Youtubeydd/Youtubydd?) achos ma’r term mor eang, mae’n cynnwys bron iawn pawb sy’n creu fideos ar gyfer Youtube.

Lewys

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhian Huws
Sent: 23 November 2016 08:36
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Youtuber

Helo

Diolch yn fawr Siân.

Ddyliwn i fod wedi rhoi mwy o gyd-destun. Yr hyn sydd dan sylw yw mathau o yrfaoedd ac mae Youtuber yn un ohonyn nhw. Felly fydden nhw ddim yn ‘sêr’ o angnenraid. Mi feddyliais wedyn a fyddai ‘Flogiwr ar Youtube’ yn gwneud y tro, gan mai cynhyrchu ‘vlogs’ maen nhw?

Rhian

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 22 November 2016 19:34
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Youtuber

Ai hyn ydyn nhw?  

"YouTubers, sometimes referred to as YouTube personalities or YouTube celebrities, are a class of Internet celebrity who have gained popularity from their videos on the video-sharing website YouTube.” 

Os felly “sêr YouTube”?

Siân

On 22 Nov 2016, at 19:22, Rhian Huws <[log in to unmask]> wrote:

Noswaith dda

Tybed oes rhywun yn gwybod am enw Cymraeg sydd wedi’i fathu ar gyfer yr uchod?

Diolch ymlaen llaw

Rhian

Cymraeg;-

Mae'r neges hon yn gyfrinachol. Os nad chi yw'r derbynnydd y bwriedid y neges ar ei gyfer, rhowch wybod i'r anfodydd yn ddioed. Dylid ystyried unrhywd ddatganiadau neu sylwadau a wneir uchod yn rhai personol, ac nid o angenrhiad yn rhai o eiddo Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, nac unrhyw ran gyfansoddol ohomi na chorff cysylltiedig.

Cofiwch fod yn ymwybodol ei bod yn bosibl y bydd disgwyl i Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg roi cyhoeddusrwydd i gynnwys unrhyw e-bost neu ohebiaeth a dderbynnir, yn unol ag amodau'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. I gael rhagor o wybodaeth am Rhyddid Gwybodaeth, cofiwch gyfeirio at wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn www.abm.wales.nhs.uk  

English:-

This message is confidential. If you are not the intended recipient of the message then please notify the sender immediately. Any of the statements or comments made above should be regarded as personal and not necessarily those of Abertawe Bro Morgannwg University Health Board, any constituent part or connected body.

Please be aware that, under the terms of the Freedom of Information Act 2000, Abertawe Bro Morgannwg University Health Board may be required to make public the content of any emails or correspondence received. For further information on the Freedom of Information, please refer to the Abertawe Bro Morgannwg University Health Board website www.abm.wales.nhs.uk