Oni ddylid cael terfyniad di-ryw, felly - Youtube-ydd yn hytrach na Youtube-wr. Youtiwbydd? Mae'n debyg mai ei adael fel "Youtuber" fyddai'r ateb gorau. Mae brawddeg Rhian dwi ddim yn dilyn llawer o Youtubers yn reit ddealladwy. Geraint On 23/11/2016 10:14, Rhian Huws wrote: > > Diolch yn fawr Lewys am daflu goleuni ar hyn ac am yr awgrymiadau > defnyddiol. Fel rwyt ti siwr o fod wedi casglu, dwi ddim yn dilyn > llawer o Youtubers! > > Wn i ddim beth fyddai’r sillafiad mwyaf priodol yma. Gan y bydd yn > derm anghyfarwydd yn y Gymraeg, rwy’n credu bod yr hyphen yn ei gwneud > yr ystyr yn gliriach. Beth yw barn pobl eraill? > > *From:*Discussion of Welsh language technical terminology and > vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of > *Lewys Rhys (ABM ULHB - Corporate Services) > *Sent:* 23 November 2016 09:55 > *To:* [log in to unmask] > *Subject:* Re: Youtuber > > Bore da > > Er gwybodaeth, nid yw pob ‘Youtuber’ yn creu ‘vlogs’. Dyna oedd y > sefyllfa tua 2008, ond nawr mae yna bob math o fideos gwahanol yn cael > eu creu yn broffesiynol ar gyfer Youtube, gan gynnwys fideos tiwtorial > (sut i dynnu lluniau, sut i roi colur arno, sut i drwsio cadair ddesg > ayb), fideos sy’n trafod helyntion y dydd, fideos sy’n beirniadu > ffilmiau a sioeon teledu a gemau fideo, sianeli hiwmor a sianeli sy > mond yn chwarae gemau fideo, sianeli sy’n creu cyfresi ‘teledu’ eu > hunain, a llawer mwy dwi’n siwr. > > Yr unig beth sy’n unoli’r holl bobl wahanol yma o dan y term > ‘Youtuber’ yw eu bod nhw’n defnyddio Youtube i roi eu cynnyrch ar y we > ac i ennill eu bywoliaeth drwy’r hysbysebion ar y safle. Rhaid nodi > hefyd bod y term ‘Youtuber’ ac nid efallai ‘sianeli Youtube’ wedi > ymddangos oherwydd fod y rhai mwyaf llwyddiannus yn llwyddiannus > oherwydd fod eu personoliaeth yn denu gwylwyr, ac felly yn fwy o > ffactor na sgil neu ansawdd eu gwaith, lot o’r amser. > > Byswn i ddim yn dweud fod pob Youtuber yn seren chwaith. Mae’r rhan > fwyaf ohonynt yn ‘enwog’ ond ar y we, ac ond o fewn cylchoedd > arbennig, ac nid yw’r rhan fwyaf ohonynt yn enwog o gwbl. > > Byswn i’n defnyddio ‘Youtubewr’ a ‘Youtubewyr’ neu rwbeth tebyg > (Youtwbwr/Youtubwyr?) (Youtube-ŵr/Youtube-wyr?) > (Youtubeydd/Youtubydd?) achos ma’r term mor eang, mae’n cynnwys bron > iawn pawb sy’n creu fideos ar gyfer Youtube. > > > Lewys > > *From:*Discussion of Welsh language technical terminology and > vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of > *Rhian Huws > *Sent:* 23 November 2016 08:36 > *To:* [log in to unmask] > <mailto:[log in to unmask]> > *Subject:* Re: Youtuber > > Helo > > Diolch yn fawr Siân. > > Ddyliwn i fod wedi rhoi mwy o gyd-destun. Yr hyn sydd dan sylw yw > mathau o yrfaoedd ac mae Youtuber yn un ohonyn nhw. Felly fydden nhw > ddim yn ‘sêr’ o angnenraid. Mi feddyliais wedyn a fyddai ‘Flogiwr ar > Youtube’ yn gwneud y tro, gan mai cynhyrchu ‘vlogs’ maen nhw? > > Rhian > > *From:*Discussion of Welsh language technical terminology and > vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of > *Sian Roberts > *Sent:* 22 November 2016 19:34 > *To:* [log in to unmask] > <mailto:[log in to unmask]> > *Subject:* Re: Youtuber > > Ai hyn ydyn nhw? > > "*YouTubers*, sometimes referred to as *YouTube personalities* or > *YouTube celebrities*, are a class of Internet celebrity > <https://en.wikipedia.org/wiki/Internet_celebrity> who have gained > popularity from their videos on the video-sharing website YouTube > <https://en.wikipedia.org/wiki/YouTube>.” > > Os felly “sêr YouTube”? > > Siân > > On 22 Nov 2016, at 19:22, Rhian Huws <[log in to unmask] > <mailto:[log in to unmask]>> wrote: > > Noswaith dda > > Tybed oes rhywun yn gwybod am enw Cymraeg sydd wedi’i fathu ar > gyfer yr uchod? > > Diolch ymlaen llaw > > Rhian > > Cymraeg;- > > Mae'r neges hon yn gyfrinachol. Os nad chi yw'r derbynnydd y bwriedid > y neges ar ei gyfer, rhowch wybod i'r anfodydd yn ddioed. Dylid > ystyried unrhywd ddatganiadau neu sylwadau a wneir uchod yn rhai > personol, ac nid o angenrhiad yn rhai o eiddo Bwrdd Iechyd Prifysgol > Abertawe Bro Morgannwg, nac unrhyw ran gyfansoddol ohomi na chorff > cysylltiedig. > > Cofiwch fod yn ymwybodol ei bod yn bosibl y bydd disgwyl i Fwrdd > Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg roi cyhoeddusrwydd i gynnwys > unrhyw e-bost neu ohebiaeth a dderbynnir, yn unol ag amodau'r Ddeddf > Rhyddid Gwybodaeth 2000. I gael rhagor o wybodaeth am Rhyddid > Gwybodaeth, cofiwch gyfeirio at wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe > Bro Morgannwg yn www.abm.wales.nhs.uk <http://www.abm.wales.nhs.uk> > > English:- > > This message is confidential. If you are not the intended recipient of > the message then please notify the sender immediately. Any of the > statements or comments made above should be regarded as personal and > not necessarily those of Abertawe Bro Morgannwg University Health > Board, any constituent part or connected body. > > Please be aware that, under the terms of the Freedom of Information > Act 2000, Abertawe Bro Morgannwg University Health Board may be > required to make public the content of any emails or correspondence > received. For further information on the Freedom of Information, > please refer to the Abertawe Bro Morgannwg University Health > Board website www.abm.wales.nhs.uk > <http://www.abm.university-trust.wales.nhs.uk> >