Print

Print


Ond os creu rhestr eirfa, a bod y gair ddim yn digwydd yn y Gymraeg, hepgor y gair yn gyfan gwbl o'r rhestr Gymraeg ydi'r peth i'w wneud, siawns?

Geraint

On 23/11/2016 09:39, Rhian Huws wrote:
[log in to unmask]" type="cite">

Diolch yn fawr Sian.

 

Yn anffodus mae’n rhaid i mi gael term sy’n sefyll ar ei ben ei hun.  Rhyw fath o restr geirfa sydd gen i fel a ganlyn:

 

‘Compromised – to break into without authorisation e.g. my email account has been compromised’.

 

Diolch a chofion

Rhian

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 23 November 2016 09:24
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Compromised

 

“Mae rhywun wedi torri i mewn i fy nghyfrif ebost”

“Mae rhywun wedi amharu ar fy nghyfrif ebost”

“Mae rhywun wedi ymyrryd â fy nghyfrif ebost” 

“Torrwyd i mewn i…”

“Amharwyd ar…”

“Ymyrrwyd â…”  ?

 

Mae’n well gen i’r ffurfiau â “rhywun”

 

Siân

 

On 23 Nov 2016, at 08:38, Rhian Huws <[log in to unmask]> wrote:

 

 

Bore Da

Oes rhywun wedi dod ar draws yr uchod yng nghyd-destun cyfrifon e-bost ac ati? E.e. ‘my email account has been compromised’.

 

‘Mewn perygl’ neu ‘dan fygythiad’ sydd yng Ngeiriadur yr Academi ond y diffiniad yw ‘to break into without authorisation’.

 

Diolch ymlaen llaw

Rhian