GALWAD AM DDIGWYDDIADAU AR GYFER RHAGLEN 2017
Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar lyfryn Rhaglen 2017 Cymru’n Cofio Wales Remembers 1914-1918 ac yn apelio am ddigwyddiadau y gellir eu defnyddio.
Am ragor o wybodaeth am y llyfryn blynyddol diweddaraf Rhaglen 2017, ewch yma.
Digwyddiadau
A fyddech cystal ag ychwanegu eich digwyddiadau ar gyfer 2017 at y wefan erbyn 1 Rhagfyr 2016 er mwyn rhoi amser i ddigwyddiadau a gyflwynwyd gael
eu hystyried a’u prosesu ar gyfer Rhaglen 2017. Ni fydd modd ychwanegu digwyddiadau a ychwanegir ar ôl dyddiad hwn yn Rhaglen 2017.
Bydd Rhaglen 2017 yn cael ei lansio ar yr un diwrnod â ein Diwrnod Partneriaeth 2017.
Yn dilyn llwyddiant Diwrnodau Partneriaeth y Rhyfel Byd Cyntaf yn 2015 a 2016, fe’ch gwahoddir i fynychu Diwrnod Partneriaeth 2017 ym Maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd, ar 26 Ionawr 2017. Gwahoddir
sefydliadau ac unigolion sy’n gweithio ar brosiectau Canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru, boed yn fach neu’n fawr, i fynychu.
Am rhagor o wybodaeth ynghylch y digwyddiad hwn, a sut i gofrestru, ewch yma.
Byddem yn ddiolchgar os gwnewch chi a’ch sefydliadau rannu’r wybodaeth hon gyda’ch cysylltiadau a’r rheiny sydd â chysylltiadau â threfniadau coffa’r Rhyfel Byd Cyntaf drwy eich gwefannau a chyfryngau
cymdeithasol.