I ddod yn ôl at awgrym Megan yn gynharach, ydy 'Baw Gwyddau' fel 'tymor hir' a 'cyfrwng Cymraeg' yn enidol o ran natur? Er bod iddo swyddogaeth ddisgrifiadol, ai genidol ydy o o ran natur yn hytrach nag ansoddeiriol a dyna pam nad oes angen treiglad? 2016-10-19 14:30 GMT+01:00 Carolyn Iorwerth <[log in to unmask] >: > Ydyn – dyna’n union oedd ei angen – ac mae’r enghraifft roddodd Rhian yn > dangos bod yr un math o batrwm yn dal yn fyw ar lafar. > > Carolyn > > > > *Oddi wrth:* Discussion of Welsh language technical terminology and > vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *Ar ran/On Behalf > Of *David Bullock > *Anfonwyd:* Dydd Mercher, 19 Hydref 2016 14:18 > *At:* [log in to unmask] > *Pwnc:* Re: ATB/RE: ATB/RE: Tymor hir - treiglo > > > > Diolch yn fawr, Megan, am enghreifftiau gwych. > > > > Os nad oes rhai uniaith ar ôl i'n harwain, maen nhw wedi gadael > tystiolaeth inni. > > > > Cwmni DB Cyf. > > Rhif y Cwmni: 04990174 > > Rhif TAW: 987 2849 49 > > Swyddfa Gofrestredig: 62 Waterloo Road, Pen-y-lan, Caerdydd CF23 9BH > > Ffôn: (029) 2048 6677 neu 07758 358236 > > Twitter: @CwmniDB > > > > *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary > [mailto:[log in to unmask] > <[log in to unmask]>] *On Behalf Of *Megan Sychnant > *Sent:* 19 Hydref 2016 13:49 > > *To:* [log in to unmask] > *Subject:* Re: ATB/RE: ATB/RE: Tymor hir - treiglo > > > > Cytuno. > > > > Enwau llefydd lleol > > > > Lôn Las > > ond > > Lôn Baw Gwyddau a ddywedir. (Yno y byddai'r gwyddau'n cael pŷg ar eu traed > ar gyfer cerdded efo'r porthmyn) !!! > > > Sent from my iPhone > > > On 19 Oct 2016, at 13:15, David Bullock <[log in to unmask]> wrote: > > Ond i fod yn deg, dyw cymharu > > > > enw ben + enw > > > > ag > > > > enw ben + enw + enw > > > > ddim yn tycio. > > > > > > > > *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary > [mailto:[log in to unmask] > <[log in to unmask]>] *On Behalf Of *Claire Richards > *Sent:* 19 Hydref 2016 12:52 > *To:* [log in to unmask] > *Subject:* Re: ATB/RE: ATB/RE: Tymor hir - treiglo > > > > Eto i gyd ‘ysgol ramadeg’... > > > > Claire > > > > *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary > [mailto:[log in to unmask] > <[log in to unmask]>] *On Behalf Of *Carolyn Iorwerth > *Sent:* 19 October 2016 12:36 > *To:* [log in to unmask] > *Subject:* ATB/RE: ATB/RE: Tymor hir - treiglo > > > > Rhaid imi gytuno mai dyna sy’n swnio’n iawn i mi – ac mae ‘Addysg Brif > Ffrwd’ ‘Ysgol Brif Ffrwd’ yn yr un modd yn chwithig? (er mai dyna sydd yn > Term Cymru). > > Carolyn > > > > *Oddi wrth:* Discussion of Welsh language technical terminology and > vocabulary [mailto:[log in to unmask] > <[log in to unmask]>] *Ar ran/On Behalf Of *David Bullock > *Anfonwyd:* Dydd Mercher, 19 Hydref 2016 12:32 > *At:* [log in to unmask] > *Pwnc:* Re: ATB/RE: Tymor hir - treiglo > > > > 'ysgol cyfrwng Cymraeg' ac 'addysg cyfrwng Cymraeg' ddywedai Berwyn bob > tro. > > > > Digon da i mi. > > > > Cwmni DB Cyf. > > Rhif y Cwmni: 04990174 > > Rhif TAW: 987 2849 49 > > Swyddfa Gofrestredig: 62 Waterloo Road, Pen-y-lan, Caerdydd CF23 9BH > > Ffôn: (029) 2048 6677 neu 07758 358236 > > Twitter: @CwmniDB > > > > *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary > [mailto:[log in to unmask] > <[log in to unmask]>] *On Behalf Of *Osian Rhys > *Sent:* 19 Hydref 2016 09:20 > *To:* [log in to unmask] > *Subject:* Re: ATB/RE: Tymor hir - treiglo > > > > Rhyfedd, 'addysg cyfrwng Cymraeg' dw i wedi'i glywed erioed a dyna sy'n > swnio'n iawn i fi fel Carolyn, a 'rhaglen tymor hir' (ond cytuno gyda'r > rhai sy'n dweud bod defnyddio hirdymor yn osgoi'r broblem). > > Osian > > > > > > > > > Ar 19 Hydref 2016 am 09:00, Claire Richards <[log in to unmask]> > ysgrifennodd: > > “addysg gyfrwng Cymraeg” ac “ysgol gyfrwng Cymraeg” dwi wedi’i ddefnyddio > erioed, ac fe welir mai “addysg gyfrwng Cymraeg” sydd gan fudiad RhAG ar ei > wefan. > > > > Claire > > > > *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary > [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of *Carolyn > Iorwerth > *Sent:* 18 October 2016 17:07 > *To:* [log in to unmask] > *Subject:* ATB/RE: Tymor hir - treiglo > > > > Mmmm! Mae nghlust i’n dweud nad oes angen y treiglad am ryw reswm ond > alla’i ddim gweld rheswm dros beidio! > > Wedi bod yn meddwl o’r blaen am ‘cyfrwng Cymraeg’ pan fydd yn cael ei > ddefnyddio’n ansoddeiriol ar ôl ‘addysg’ ond wedi anwybyddu’r peth! > > Carolyn > > > > *Oddi wrth:* Discussion of Welsh language technical terminology and > vocabulary [mailto:[log in to unmask] > <[log in to unmask]>] *Ar ran/On Behalf Of *Claire > Richards > *Anfonwyd:* Dydd Mawrth, 18 Hydref 2016 16:53 > *At:* [log in to unmask] > *Pwnc:* Re: Tymor hir - treiglo > > > > Dyna pam y gall defnyddio ‘hirdymor’ fel ansoddair fod yn ddefnyddiol! > > > > Ond dwi’n treiglo ‘tymor hir’ a ‘tymor byr’ pan maen nhw’n ansoddeiriol. > > > > Dwi’n dechrau amau ydw i’n iawn... > > > > Claire > > > > *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary > [mailto:[log in to unmask] > <[log in to unmask]>] *On Behalf Of *Carolyn Iorwerth > *Sent:* 18 October 2016 16:45 > *To:* [log in to unmask] > *Subject:* Tymor hir - treiglo > > > > Cwestiwn gwirion diwedd pnawn! Ydy ‘tymor hir’ yn treiglo ar ôl enw > benywaidd fel petai’n ansoddair cyffredin? > > Carolyn > > > >