Diolch Megan – mae honna’n enghraifft dda arall tydi?
Carolyn
Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Megan Sychnant
Anfonwyd: Dydd Mercher, 19 Hydref 2016 13:49
At: [log in to unmask]
Pwnc: Re: ATB/RE: ATB/RE: Tymor hir - treiglo
Cytuno.
Enwau llefydd lleol
Lôn Las
ond
Lôn Baw Gwyddau a ddywedir. (Yno y byddai'r gwyddau'n cael pŷg ar eu traed ar gyfer cerdded efo'r porthmyn) !!!
Sent from my iPhone
On 19 Oct 2016, at 13:15, David Bullock <[log in to unmask]> wrote:
enw ben + enw
ag
enw ben + enw + enw
ddim yn tycio.
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Claire Richards
Sent: 19 Hydref 2016 12:52
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB/RE: ATB/RE: Tymor hir - treiglo
Eto i gyd ‘ysgol ramadeg’...
Claire
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn Iorwerth
Sent: 19 October 2016 12:36
To: [log in to unmask]
Subject: ATB/RE: ATB/RE: Tymor hir - treiglo
Rhaid imi gytuno mai dyna sy’n swnio’n iawn i mi – ac mae ‘Addysg Brif Ffrwd’ ‘Ysgol Brif Ffrwd’ yn yr un modd yn chwithig? (er mai dyna sydd yn Term Cymru).
Carolyn
Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of David Bullock
Anfonwyd: Dydd Mercher, 19 Hydref 2016 12:32
At: [log in to unmask]
Pwnc: Re: ATB/RE: Tymor hir - treiglo
'ysgol cyfrwng Cymraeg' ac 'addysg cyfrwng Cymraeg' ddywedai Berwyn bob tro.
Digon da i mi.
Cwmni DB Cyf.
Rhif y Cwmni: 04990174
Rhif TAW: 987 2849 49
Swyddfa Gofrestredig: 62 Waterloo Road, Pen-y-lan, Caerdydd CF23 9BH
Ffôn: (029) 2048 6677 neu 07758 358236
Twitter: @CwmniDB
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Osian Rhys
Sent: 19 Hydref 2016 09:20
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB/RE: Tymor hir - treiglo
Rhyfedd, 'addysg cyfrwng Cymraeg' dw i wedi'i glywed erioed a dyna sy'n swnio'n iawn i fi fel Carolyn, a 'rhaglen tymor hir' (ond cytuno gyda'r rhai sy'n dweud bod defnyddio hirdymor yn osgoi'r broblem).
Osian
Ar 19 Hydref 2016 am 09:00, Claire Richards <[log in to unmask]> ysgrifennodd:
“addysg gyfrwng Cymraeg” ac “ysgol gyfrwng Cymraeg” dwi wedi’i ddefnyddio erioed, ac fe welir mai “addysg gyfrwng Cymraeg” sydd gan fudiad RhAG ar ei wefan.
Claire
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn Iorwerth
Sent: 18 October 2016 17:07
To: [log in to unmask]
Subject: ATB/RE: Tymor hir - treiglo
Mmmm! Mae nghlust i’n dweud nad oes angen y treiglad am ryw reswm ond alla’i ddim gweld rheswm dros beidio!
Wedi bod yn meddwl o’r blaen am ‘cyfrwng Cymraeg’ pan fydd yn cael ei ddefnyddio’n ansoddeiriol ar ôl ‘addysg’ ond wedi anwybyddu’r peth!
Carolyn
Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Claire Richards
Anfonwyd: Dydd Mawrth, 18 Hydref 2016 16:53
At: [log in to unmask]
Pwnc: Re: Tymor hir - treiglo
Dyna pam y gall defnyddio ‘hirdymor’ fel ansoddair fod yn ddefnyddiol!
Ond dwi’n treiglo ‘tymor hir’ a ‘tymor byr’ pan maen nhw’n ansoddeiriol.
Dwi’n dechrau amau ydw i’n iawn...
Claire
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn Iorwerth
Sent: 18 October 2016 16:45
To: [log in to unmask]
Subject: Tymor hir - treiglo
Cwestiwn gwirion diwedd pnawn! Ydy ‘tymor hir’ yn treiglo ar ôl enw benywaidd fel petai’n ansoddair cyffredin?
Carolyn