Print

Print


Dwi’n ystyried ‘tymor hir’ yn ansoddair cyfansawdd, yn union yr un peth â ‘hirdymor’, er yn cael ei ysgrifennu fel dau air ac nid un.

 

Hyd y gwn i, mae pob ansoddair cyfansawdd yn treiglo fel arfer.

 

Efallai fy mod i’n anghywir yn hynny o beth.

 

Claire

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhian Jones
Sent: 19 October 2016 09:57
To: [log in to unmask]
Subject: ATB/RE: ATB/RE: ATB/RE: Tymor hir - treiglo

 

Mae nghlust i’n dweud yr un fath â ti Carolyn, ond dydw i ddim yn gwybod pam. Ydy’r ffaith fod yr ‘hir’ yn ‘tymor hir’ yn disgrifio’r ‘tymor’ yn hytrach na be bynnag ydi’r enw cyntaf yn gwneud unrhyw wahaniaeth? Ddim yn siwr.

Rhian

 

Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Carolyn Iorwerth
Anfonwyd: 19 October 2016 09:45
At: [log in to unmask]
Pwnc: ATB/RE: ATB/RE: Tymor hir - treiglo

 

Mae hyn yn ddiddorol – mae’n amlwg bod pobl yn meddwl yn wahanol am y peth – rhai’n ei ystyried yn ansoddair – eraill ddim er dw i ddim yn siŵr  mai genidol ydy o chwaith Megan. Mae ‘na lawer mwy o enghreifftiau o ‘addysg cyfrwng Cymraeg’ ar Google nag o ‘addysg gyfrwng Cymraeg’ – ond dydy hynny wrth gwrs ddim yn golygu mai dyna sy’n iawn.

Carolyn

 

Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Osian Rhys
Anfonwyd: Dydd Mercher, 19 Hydref 2016 09:20
At: [log in to unmask]
Pwnc: Re: ATB/RE: Tymor hir - treiglo

 

Rhyfedd, 'addysg cyfrwng Cymraeg' dw i wedi'i glywed erioed a dyna sy'n swnio'n iawn i fi fel Carolyn, a 'rhaglen tymor hir' (ond cytuno gyda'r rhai sy'n dweud bod defnyddio hirdymor yn osgoi'r broblem).

Osian

 


 

 

Ar 19 Hydref 2016 am 09:00, Claire Richards <[log in to unmask]> ysgrifennodd:

“addysg gyfrwng Cymraeg” ac “ysgol gyfrwng Cymraeg” dwi wedi’i ddefnyddio erioed, ac fe welir mai “addysg gyfrwng Cymraeg” sydd gan fudiad RhAG ar ei wefan.

 

Claire

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn Iorwerth
Sent: 18 October 2016 17:07
To: [log in to unmask]
Subject: ATB/RE: Tymor hir - treiglo

 

Mmmm!  Mae nghlust i’n dweud nad oes angen y treiglad am ryw reswm ond alla’i ddim gweld rheswm dros beidio!

Wedi bod yn meddwl o’r blaen am ‘cyfrwng Cymraeg’ pan fydd yn cael ei ddefnyddio’n ansoddeiriol ar ôl ‘addysg’ ond wedi anwybyddu’r peth!

Carolyn

 

Oddi wrth: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Claire Richards
Anfonwyd: Dydd Mawrth, 18 Hydref 2016 16:53
At: [log in to unmask]
Pwnc: Re: Tymor hir - treiglo

 

Dyna pam y gall defnyddio ‘hirdymor’ fel ansoddair fod yn ddefnyddiol!

 

Ond dwi’n treiglo ‘tymor hir’ a ‘tymor byr’ pan maen nhw’n ansoddeiriol.

 

Dwi’n dechrau amau ydw i’n iawn...

 

Claire

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn Iorwerth
Sent: 18 October 2016 16:45
To: [log in to unmask]
Subject: Tymor hir - treiglo

 

Cwestiwn gwirion diwedd pnawn!  Ydy ‘tymor hir’ yn treiglo ar ôl enw benywaidd fel petai’n ansoddair cyffredin?

Carolyn